Mae Dafydd yn wyr i Gomer Wyn Y.H.a Rita Morgan, Gellifawr, Cwmgors ac Esme a'r diweddar Talfryn Williams Blaengarw.Mae y rhanfwyaf ohonoch yn adnabod ei dad fel Mr Williams fferyllydd Cwmllynfell. Roedd ei ddatcu Talfryn yn fferyllydd yng Ngwaun Cae Gurwen nol yn y 60'au cyn prynu siop fferyllfa ym Mlaengarw, Pen-y -Bont ar Ogwr.
Derbyniodd Dafydd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Cwmgors ac Ysgol Gyfun Ystalyfera Ile roedd yn Brif Fachgen yn 2006 - 2007. Cyn dechrau yn yr Ysgol Feddygaeth cafodd ei wobrwyo gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt am ei ganlyniadau lefel A yn enwedig rhai Cemeg mewn sermoni yng Ngwesty'r Twr .
Dewiswyd Dafydd a naw disgybl arall o Gymru gan yr Urdd i fynd i wlad Pwyl i wneud gwaith dyngarol yng nghartrefi plant amddifad. Cododd dros £1.000 i fynd gydag ef i wario ar y plant..Buodd ardal Glo Man yn hael iawn i'w apel.
Mae'r Eisteddfod a cherddoriaeth wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd. Bu'n aelod o Fand Pres Cwmtawe a Band Arian Gwaun Cae Gurwen cyn ei ddyrchafu yn aelod o Fand Pres Ieuenctid Cymru. Bu'n cystadlu sawl gwaith ar lwyfan yr Eisteddfod gyda grwpiau dawnsio gwerin Canolfan Gwenallt ac aelwyd Y Waun Ddyfal Caerdydd.
Llynedd enillodd y wobr gyntaf gan Y Gymdeithas Feddygol Gymraeg am ei gyflwyniad poster " Atal Thrombosis Gwythien Ddofn Mewn Menywod Beichiog".
Mae e nawr yn Feddyg Sylfaen blwyddyn gyntaf yn Ysbyty Tywysoges Cymru Pen-ybont ar Ogwr
No comments:
Post a Comment