Dydd
Sadwrn, Medi’r 8fed, 2012 – diwrnod arbennig ym mywyd Mary Hanham a’i theulu –
diwrnod dathlu ei phenblwydd yn gant oed. Derbyniodd dros gant a hanner o
gardiau penblwydd gan gynnwys un arbennig oddi wrth y Frenhines. Treuliodd
brynhawn hyfryd ymhlith ei theulu a llu o ffrindiau o’r ardal. Yn wir, roedd
yno bum cenhedlaeth o deulu Mary yn bresennol.
Mae Mary yn enedigol o Lanfairfechan, ei
thad yn arddwr yn y plas a’i mam yn forwyn yno. Ganwyd tri o blant iddynt – dau
fab, Jim a Jack, ac ymhen wyth mlynedd ganwyd eu merch, Mary. Symudodd y teulu
i Abergwili lle roedd ei thad yn ben-garddwr ym Mhlas yr Esgob a’i mam yn
gogydd. Pan oedd Mary yn wyth oed tarawyd ei mam â chlefyd y galon ac i Mary y
death y cyfrifoldeb o ofalu am y cartref a’r teulu. Ond oherwydd prinder gwaith
symudodd y teulu i fyw i Llandybïe gyda’i thad yn barod i ymgymeryd ag unrhyw
waith oedd ar gael yn y pentref.
Diddorol iawn yw bod yng nghwmni Mary a
gwrando ar ei helyntion a’i straeon. Soniodd am adeg y ‘Welsh Not’ yn yr ysgolion. Clywyd Mary yn siarad Cymraeg yn y
dosbarth ac o ganlyniad dyma’r gansen ar gledr ei llaw. Dychwelodd adref gyda’i
llaw yn gwingo ond ni soniodd gair wrth ei theulu am yr helynt. Galwodd ffrind
ysgol heibio gan ei holi am gyflwr ei llaw. O dipyn i beth daeth y digwyddiad i
glyw Jim a Jack, ei brodyr. Trannoeth ymwelodd
y ddau â’r ysgol a dod o hyd i’r athro. Gafaelwyd ynddo a chafodd grasfa
ganddynt ac ni chafodd Mary drafferth byth wedyn.
Soniodd Mary am y teulu yn ymweld â’i
mam-gu yn Abergwaun a oedd yn byw mewn bwthyn – tŷ un-nos – o’r enw ‘Cwm Brandy’.
Cyfarfu Mary â’i darpar-ŵr, Jack Hanham
ac ymhen amser priodwyd y ddau yn Eglwys Llandybïe. Ganwyd mab iddynt, Vivian,
ond yn anffodus roedd yn dioddef o glefyd y galon –‘hole in the heart’– ac er y gofal a gafodd gan Dr. Stewart, ei
feddyg, bu farw. Rhyw saith mlynedd wedi colli’r baban Vivian ganwyd eu
hail-fab, Clive. Mae’r gwendid clefyd y galon yn rhedeg yn y teulu ac fe anwyd
mab i Clive â’r un diffyg. Yn ffodus mae triniaethau ar y galon wedi gwella ac
y mae yn holl iach erbyn hyn.
Llun
prioas Mary a Jack Hanham – sylwch yn y darlun priodas bod Mary yn gwisgo pâr
o fenyg hirion. Y mae’n trysori’r rhain ac meant wedi eu lapio mewn papur sidan
a’u rhoi yn ofalus yn y dror.
Treuliodd Mary ddeg mlynedd yn gweithio
yn ffatri ‘Pullmans’ ac yna wyth
mlynedd yng nghegin ffatri ‘John White’. Roedd Mary wrth ei bodd yn
coginio yn enwedig diwrnod ‘fish and
chips’ Mi roedd hi yn uchel ei pharch yno. Ni welwyd Mary yn eistedd yn
segur yn ei chadair. Byddai’r bysedd diwyd yn gwau y croesi (crochet) neu yn cywiro sanau’n gyson.
Bu’n brysur am flynyddoedd yn gwau blancedi i’w hanfon i anffodusion Rwmania.
Hoffai ddarllen pan oedd ei golygon yn caniatau. Hunangofiannau a ddenai ei
bryd ac fe alwodd Hywel Gwynfryn heibio i recordio ei hanes i’w ddarlledu.
Cymerai gryn ddiddordeb mewn llysiau
meddyginiaethol. Cofiodd am yr adeg pan oedd Clive yn dioddef o draed chwyslyd
a drewllyd. Er golchi ei draed deirgwaith y dydd a newid ei hosannau yr oeddynt
yn parhau i wynto. Arllwysodd ei fam ‘bicarbonate
of soda’ i mewn i’w sgidiau ac ymhen tridiau diflannodd y gwynt a’r chwys.
Galwodd i gof yr adeg pan oedd hi yn dioddef o wlser (ulcer) ar ei choes. Er yr holl feddyginiaeth a’r driniaeth
gwaethygi wna’r cyflwr. Galwodd Mair a Nesta, Nantygro heibio gan ei chynghori i
osod mêl ar ddarn o ddefnydd, ei lapio am ei choes gan adael am wythnos. Fy
gymerodd y driniaeth pum mis i wella’r wlser ond ni ddychwelodd.
Rhaid sôn am y mordeithiau gydag Eirwen
Davies, Tŷ Mawr. Bob blwyddyn byddai tipyn o astudio y gwahanol wledydd a
pharatoi mawr at y gwyliau. Teithiodd led-led y byd gan gynnwys yr Aifft,
Palesteina a Norwy a’i hoff gyrchfan oedd Ynysoedd y Caribî.
Er bod ei golwg yn pallu, mae’r cof a’r
meddwl yn chwim a bywiog. Gallwch alw heibio i weld Mary Hanham, Stryd ‘Up and Down’, Pantyffynnon, bydd yna
groeso mawr yn eich disgwyl a bydd wrth ei bodd i gael clywed hynt a helynt yr
ardal.
Mrs.
Mary Rees
No comments:
Post a Comment