Dros
benwythnos cyntaf mis Medi, aeth dwy o’r
aelodau ar Benwythnos Preswyl Merched y Wawr, a gynhaliwyd eleni yn Llanbedr Pont Steffan. Cawsant amser
bendigedig yno.
Erbyn hyn mae’r tymor newydd wedi dechrau ac fe gynhaliwyd y
cyfarfod agoriadol Nos Wener, Medi 14eg. Y wraig wâdd oedd Liwsi Kim Protheroe Davies –
un a fagwyd yng Ngwaun Cae Gurwen, ond sydd bellach yn byw yn Llandybie. Ar ôl
ennill ei gradd gyntaf o goleg Prifysgol
Aberystwyth aeth Liwsi ymlaen i astudio
ymhellach a gwneud gwaith ymchwil ym
maes “Geneteg”. Erbyn hyn mae’n arbenigo yn y maes ac mae’n gweithio yn Ysbyty
Singleton ac hefyd yn darlithio yn y Brifysgol yn Abertawe.
Er mor ddyrys yw’r
pwnc, fe lwyddodd Liwsi i roi
amlinelliad dealladwy i’r gynulleidfa
o’i gwaith bob dydd, gan roi enghreifftiau o broblemau iechyd sy’n gallu codi pan fo nam ar y genynnau.Diolchwyd iddi am noson ddifyr
ac addysgiadol gan y Llywydd,Buddug Williams.
No comments:
Post a Comment