Ar nos Lun, Hydref 8fed, i ail-gychwyn y Tymor, daeth nifer o aelodau capeli Gosen a Sion, a’u ffrindiau ynghyd i’r Llew Coch, Llandybie i ddathlu’r cynhaeaf drwy i fwynhau swper blasus. Rhoddwyd cyfraniad o werthiant y tocynnau tuag at waith Cymorth Cristnogol.
Dechreuwud y noson drwy weddi o ddiolch a gofyn bendith gan y Parchg Carl Williams. Braf oedd cymdeithasu ymysg ffrindiau. Cafwyd gair o ddiolch gan Mr Alun Lloyd, yn dilyn gwybodaeth ganddo am raglen hynod ddiddorol sydd wedi ei threfnu ar gyfer y misoedd nesaf gan aelodau Cymdeithas yr Onnen. Braf yw datgan bod y Parchg Carl Williams wedi bodloni cymeryd at y dasg o arwain y nosweithiau hyn.
Cynhelir cyfarfod unwaith y mis tan y Gwanwyn. Mae rhaglenni’r tymor ar gael gan aelodau’r capeli. Fel arfer bydd y cyfarfodydd ar nos Lun cyntaf pob mis i gychwyn am 7 o’r gloch yn Festri Capel Gosen .
Estynnir croeso i unrhyw un ymuno yn y gweithgareddau.
No comments:
Post a Comment