Eleni eto, bu Hazel a’i phriod Parry, Llais yr Andes, Llandybie yn lletya gˆwr ifanc o’r enw Isaias Grandis o Drevelin, Patagonia. Roedd hyn cyn iddo gystadlu yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Bro Morgannwg ym mis Awst.
Erbyn hyn gwyr pawb am lwyddiant ysgubol Isaias: nid yn unig am ei frwdfrydedd heintus o blaid yr iaith Gymraeg ond hefyd am ei freuddwyd o sefydlu Ysgol Gymraeg yng Nghwm Hyfryd. Hyd yn hyn dim ond dosbarthiadau Cymraeg a gynhelir yn Esquel a Threvelin - dosbarthiadau a sefydlodd Hazel ym 1997 pan aeth i’r Wladfa fel athrawes o dan Cynllun Dysgu Cymraeg. Gobaith Isaias ac eraill yw codi ysgol ddwy-ieithog yno yn debyg i’r ysgol sy’n bodoli yn Nhrelew 400 milltir i ffwrdd.
Yn ystod ei arhosiad yn Llandybie ymwelodd Isaias a chapel y Gwynfryn lle bu’n cymryd rhan yn yr oedfa gymun ac yn yr hwyr aeth Hazel ag yntau i wasanaeth yn yr Eglwys Efengylaidd yn Rhydaman, lle gwelodd Isaias, er mawr lawenydd iddo, nifer o ieuenctid yn moli i gyfeiliant gitar a hynny yn gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn hyn mae Isaias yn cynnal oedfaon Cymraeg eu hiaith, yn fisol, ym Methel, Trevelin ac yn Seion, Esquel ac yn ystod ymweliad Hazel a’r Andes ym mis bach eleni, bu Isaias yn ei cynorthwyo wrth iddi arwain yr oedfa Gymraeg yng nghapel Seion.
Cafwyd cyfle, hefyd, i fynd ag Isaias i Gwm Gwendraeth ac i bentrefi Ponthenri i chwilio am gartref Daniel Evans, tad John Daniel Evans a aeth allan ar y Mimosa pan oedd yn 4 mlwydd oed. Mae hanes JDE yn ddiddorol. Ef oedd yr un ddihangodd am ei fywyd ar gefn ceffyl “Malacara” ac a fu’n arloeswr ymhlith Cymry’r Andes. Roedd Isaias wrth ei fodd yn mynd ar drywydd gwreiddiau’r arwr gan ei fod yn byw nid nepell o gartref JDE a beddrod enwog “Malacara” y ceffyl.
Y gobaith nawr yw agor cronfa yng Nghymru i
gefnogi’r fenter newydd hon a gwireddu’r
freuddyd o adeiladu Ysgol Gymraeg Bro Hydref.
No comments:
Post a Comment