Dyma lun o rai o aelodau Côr Meibion Llandybie ar eu hymweliad a Stiwdio Newyddion y BBC yn Llandaf, Caerdydd. Y daith ddirgel oedd un o uchafbwyntiau y Côr eleni. Gwelodd yr aelodau stiwdios Radio Cymru a Radio Wales ac roedd yn hynod ddiddorol gweld y gweithgareddau “tu ôl i’r llenni” fel petai. Bu’r Côr yng Nghanolfan Techniquest yn y Bae hefyd cyn teithio nôl, yn hamddenol, trwy Fro Morgannwg a galw ar yr Alltwen am bryd o fwyd blasus i ddiweddu diwrnod da.
Brysiwch i brynu cryno ddisg newydd y Côr cyn eu bod wedi’u gwerthu. Ar y c-dd mae deg o ganeuon sy’n cynnwys nifer o’n hoff emynau ynghyd a chaneuon swynol eraill. Enw’r c-dd yw Caneuon ar gyfer Nos Sul” sy’n awgrymu mai aneuon rhwydd i wrando arnynt ac sy’n cynorthwyo person i ymlacio cyn cychwyn wythnos arall o waith. Mae’r c-dd ar werth gan unrhyw aelod o’r côr.
Mae’r Côr yn cyfarfod pob nos Fawrth a nos Iau am 7 o’r gloch yn Neuadd y Pensiynwyr, y Stryd Fawr, Llandybie. Croeso cynnes i chi alw heibio i wrando neu, gwell fyth, ymuno. Mae’r gymdeithas yn gyfeillgar a hapus!

No comments:
Post a Comment