Yn dilyn llwyddiant ysgubol agoriad swyddogol Llwybr y
Twrch Trwyth yng Nghwmaman ar y Dydd Gwener gyda seremoni agoriadol wych yn
Ysgol y Bedol, aed ati ar y dydd Sadwrn i ail gerdded y llwybrau hynafol o
Dircoed draw i’r Hen Fethel. Arweiniwyd
y daith gan Alun a Margaret a welir ar y dde yn y llun uchod gyda David Davies
y Clerc, y Cynghorwr Dafydd Wyn ac eraill o Gwm Aman a’r cyffiniau yn eu dilyn. Roedd y cerddwyr yn ymwybodol mai ar hyd y
llwybr hwn y cariwyd hersi eu cyndeidiau yn yr oes a fu ar gyfer claddedigaeth
ym mynwent yr Hen Fethel. Aethpwyd ar hyd y llwybr o Hewl Horni (Hewl Folland yn
hwyrach) heibio i Dŷ Llwyd - o bosib yr adeilad hynaf yn y cwm – nes cyrraedd
ymhen milltir neu ddwy yr Hen Fethel a gysegrwyd yn 1773. Mawr fu edmygedd y teithwyr o’r gwaith
adnewyddu chwaethus a wnaed gan Emyr Jenkins a’i wir-foddolwyr. Cerddwyd yn ôl ar hyd y llwybr uchaf heibio i
Gwm Ffrwd ac roedd pawb yn falch o weld Tafarn yr Angel yn y pellter.
No comments:
Post a Comment