Lawnswyd llyfr Saesneg am hanes pêl droed ym Mrynaman yng Nghanolfan
y Mynydd Du. yn ddiweddar. Eifion Rogers, un o hoelion wyth
clwb pêl droed Bryn Rovers (a sefydlwyd yn 1985 ) sydd wedi bod wrthi’n ddyfal yn crynhoi’r
ffeithiau a’r lluniau ar gyfer y gyfrol.
Cafwyd gair
o groeso gan y Cynghorydd Sir, Glynog Davies, un sy’n adnabod Eifion yn dda
iawn, ac fe gyflwynodd yntau y gwestai, Alun Wyn Bevan,sydd wedi paratoi
rhagair i’r llyfr. Siaradodd Eifion
hefyd, gan gydnabod y cymorth a gafodd
gan sawl unigolyn wrth gasglu’r holl wybodaeth ar gyfer y llyfr, sydd ar
werth yn y ganolfan ac yn Swyddfa’r Post
yn y pentref am £10.50 ( anrheg Nadolig delfrydol ar gyfer unrhywun sy’n
ymddiddori yn hanes y gêm yn lleol!)
Mewn
cydweithrediad ag aelodau o Treftadaeth Brynaman, paratowyd arddangosfa i
gyd-fynd â chynnwys y llyfr. Fe fydd yr arddangosfa i’w gweld yn y ganolfan am
y ddeufis nesaf
No comments:
Post a Comment