Roedd yr Hen Fethel dan ei sang eleni eto
gyda chynulleidfa frwdfrydig wedi ymgynull yno am hanner awr wedi chwech ar
fore’r Nadolig i gychwyn yr Wyl yn y modd gorau posib. Bu Emyr Jenkins a’i wirfoddolwyr yn
atgyweirio’r capel ymlaen llaw a braf oedd ei weld ar ei newydd wedd yng
ngolau’r canhwyllau. Cafwyd darlleniadau
o’r Ysgrythur, adroddiadau barddonol a gweddĩau ac fe ganwyd carolau’r Nadolig
gydag arddeliad. Llywyddwyd am y
bymthegfed blwyddyn yn olynol gan Linden Evans a gyflawnodd y gwaith hwn yn
effeithiol iawn ers dyddiau Meirion Evans ei ewyrth. Mawr fu ein dyled i’r ddau ohonynt. Gwnaeth Linden ymddeol o’r swydd hon ar
derfyn yr oedfa ond fe gynhelir Plygain yr Hen Fethel y Nadolig nesaf eto o dan
lywyddiaeth ei olynydd.
No comments:
Post a Comment