Cyflwynwn ein dymuniadau da i Dr.Frank
Powell a fu’n dathlu ei benblwydd yn 90 mlwydd oed ar Chwefror 22ain. Bu Dr.Powell yn Feddyg Teulu gyda ni am
flynyddoedd lawer a mawr yw’r parch iddo yn y Cwm. Penblwydd hapus iawn, Dr.Powell, a gobeithio
y bydd sawl blwyddyn arall o’ch blaen i’w dathlu.
Hefyd, bydd ei wraig annwyl, Mrs.Muriel
Powell yn dathlu ei phenblwydd yn 91 oed ar yr 13eg o Fawrth eleni. Pob dymuniad da iddynt i’r dyfodol a mwy na
dim, iechyd da.
No comments:
Post a Comment