Fel rhan o ymgyrch casglu
bagiau Merched y Wawr mae Elan Daniels a Mari Llywelyn wedi bod yn ein hannog i
gyflwyno hen fagiau. Maent yn derbyn unrhyw
fagiau, mewn unrhyw gyflwr.
Byddant yn cael eu
trosglwyddo i gangen Merched y Wawr Rhydaman, ac yna i Gymorth Cristnogol sef elusen Llywydd
Cenedlaethol Merched y Wawr am eleni. Bydd y rhai sydd wedi torri yn cael eu
hailgylchu a'r rhai sydd mewn cyflwr da yn cael eu gwerthu ar stondin yn yr
Eisteddfod Genedlaethol.
Yn y llun mae Elan a
Mari yn trosglwyddo bagiau i rhai o Ferched y Wawr Gellimanwydd
No comments:
Post a Comment