Yn y llun,
gwelir Mrs. Gill Morgan Jones, a ddaeth atom i Gangen y Gwter Fawr . Mae hi wedi ymddiddori mewn crefftau yn
ymwneud â gwnїo ers blynyddoedd maith, ond yn
ystod y degawd diwethaf mae hi wedi treulio y rhan fwyaf o’i hamser sbâr
yn arbenigo ar y grefft “Cwiltio”. Gwledd i’r llygaid oedd cael gweld
engrheifftaiu o’i gwaith llaw
cywrain,medrus. Cafwyd esboniad o gefndir y grefft a sut y daeth Gill ei
hunan i ddechrau Cwiltio, yn ogystal ag eglurhad am y lliwiau a’r patrymau celfydd amrywiol ymhob eitem oedd ganddi,-
a’r rheiny yn amrywio o fagiau llaw i fagiau siopa, ac o gwiltiau i ddol i gwiltiau gwely dwbl! Erbyn hyn, mae
Gill yn helpu i hyfforddi eraill yn y grefft, ond mae hefyd yn dal i fynd i
ddosbarth er mwyn parhau i ddysgu mwy ei
hun.
No comments:
Post a Comment