Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.
Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
1.5.13
Ai Dyma’r Amarylis Dalaf yng Nghwmaman?
Mae Dilys Richards yn enwog yn Heol Tirycoed, Glanaman am y toraith o
flodau hardd sydd i’w gweld yn flynyddol o gylch ei thŷ ac mae Dilys hefyd yn
tyfu blodau megis y geraniums yng nghyntedd ei thŷ dros y Gaeaf. Ond y Gwanwyn yma, y blodyn sy’n dal sylw’r
cymdogion yw’r Amarylis tair troedfedd o uchder, gyda’r tri blodyn siap trwmpet
ar ben yr un stem yn ogoneddus yn eu lliwiau coch, pinc a gwyn.
Llwyddodd Dilys i dyfu
Amarylis troedfedd o uchder y llynedd a defnyddiodd y bwlb a ddaeth ohono i
dyfu’r Amarylis gogoneddus sydd ganddi eleni.
Fel y dywed Rhythwyn, ei gŵr, “Mae’n werth tynnu llun o’r fath rhyfeddod.” Os oes unrhyw un o ddarllenwyr “Glo Mân” wedi
gweld Amarylis tair troedfedd o uchder o’r blaen byddem yn falch o glywed am
hynny ac, os yw’n bosib, gweld y llun o’r fath flodyn bendigedig.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment