Merched
y Wawr – Cangen Rhydaman a’r Cylch
Braf oedd cael croesawu aelodau’r
gangen i Dycroes yn ddiweddar. Bu i ni ddathlu Gŵyl ein Nawddsant gyda chinio blasus yn y ‘Mwntan’
(Mountain Gate) fel y cyfeirir ato gan drigolion y pentref. Fe’n diddanwyd gan
blant hŷn Ysgol
Gymraeg Rhydaman. Cafwyd ganddynt eitemau amrywiol – canu, dawnsio ac ymgom ac
fe’u cyflwynwyd gan Mr. Geraint Davies, y Prifathro.
No comments:
Post a Comment