Cynhaliwyd
bore coffi i’w gofio yng Nghlwb Godre’r Mynydd Du o dan arweiniad Belinda
Jenkins a’i chriw gweithgar i godi arian i’r mudiad teilwng uchod. Yr oedd y byrddau yn hyfryd eu gweld ac roedd
yno ddanteithion blasus at ddant pawb.
Yr oedd Maer a Maeres Cwmaman yn bresennol a chyflwynodd y Cynghorwr
Dafydd Wyn siec oddiwrth Cyngor Tref Cwmaman ar ôl rhoi araith fer a phwrpasol. Hefyd yn bresennol oedd y Cynghorwr Sir,
David Jenkins. Codwyd y swm sylweddol o
bedwar can punt a charai Belinda ddiolch o waelod calon i’r rhai a’i cefnogodd
yn y fenter hon. Diolchwn ninnau iddi hi
a’i chydweithwyr am wneud y fath
gyfraniad gwerthfawr i’r rhai sy’n dioddef wrth gancr.
No comments:
Post a Comment