Mae côr merched
Lleisiau'r Cwm wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn perfformio, ac mae’r misoedd
nesaf yn mynd i fod yn rhai prysur iawn iddynt.
Cynhaliwyd
Eisteddfod Rhydaman ar Ddydd Sadwrn Mehefin 22ain ac fe gefnogodd y merched yr
Eisteddfod ac ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth gorawl. Ar Fehefin 28ain
roeddent yn perfformio mewn Noson Lawen yng Nghlwb Garnant, ac ar Nos Sul
Mehefin 30ain, yn rhan o’r gynulleidfa yng Nghapel Bethany Rhydaman yn Gymanfa
Gyhoeddi Eisteddfod Sir Gâr 2014.
Dros y blynyddoedd mae’r merched wedi, ac
maent yn parhau i gefnogi elusennau lleol a Chenedlaethol, a bydd rhai aelodau
yn rhedeg y Ras am Fywyd yn Abertawe ar ddiwedd Gorffennaf i godi arian i
Gancr. Eleni mae'r côr yn codi arian tuag at XLA. (X- linked agammaglobinemia). Roedd y côr yn perfformio mewn cyngerdd Cymorth
Cristnogol yn Ysgol y Bedol ym mis Gorffennaf ac ar Fedi 11eg maent yn teithio
i’r Lyric yng Nghaerfyrddin i berfformio gyda’r Tri Tenor.
Maent yn perfformio
gyda Dafydd Iwan yn Llangyndeyrn ym mis Hydref ac ym mis Rhagfyr byddant
yn ymuno â Côr Crymych a’r Cylch yn eu cyngerdd Nadolig yn Aberteifi.
No comments:
Post a Comment