Bydd dau o feibion Rhydaman yn cymryd rhan flaenllaw ym mis Medi eleni yn
un o fentrau newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef y Cynllun Dysgu o Bell. Bydd
Stephen Rees, a faged yn Rhydaman ac a addysgwyd yn Ysgol Gyfun Dyffryn
Aman ac yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt, yn trafod ein traddodiad gwerin mewn
cerddoriaeth (‘Hen Alawon Newydd: Adfywiad(au) Cerddoriaeth Werin Cymru’). Tra
bydd Dr Gethin Thomas, un arall o feibion sir Gâr a faged yn Rhydaman ac
a addysgwyd yn Ysgol Maes yr Yrfa ac ym Mhrifysgol Bangor yn trafod un o
feysydd Sŵoleg, sef ecoleg parasitau a’u horganebau lletyol. Mae Gethin yn
ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ym maes Sŵoleg
Mae Stephen yn hen law ar ddarlithio a bu’n dysgu nifer o bynciau amrywiol
ym Mhrifysgol Bangor ers rhai blynyddoedd: o ganeuon y bymthegfed ganrif i
bedwarawdau Beethoven. Er 2010 bu Stephen yn Gydlynydd Cerddoriaeth Academaidd
i’r Coleg Cymraeg, gyda’r nod o gyfoethogi ac ehangu’r ddarpariaeth gerddorol
cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch yng Nghymru. Yn ei oriau hamdden mae’n
berfformiwr profiadol ac yn aelod o’r grwpiau gwerin Ar Log a Crasdant.
Bydd y ddau ymhlith criw o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg a fydd yn annerch
cynulleidfa genedlaethol drwy’r cyswllt fideo yn ystod ail wythnos lawn mis
Medi eleni: sef prynhawn dydd Mercher (11 Medi), nos Iau (12 Medi) a bore dydd
Sadwrn (14 Medi). Dewch naill ai i Stiwdio’r Coleg Cymraeg yng Nghaerfyrddin
neu i Stiwdio’r Coleg Cymraeg yn Abertawe i glywed Stephen neu Gethin.
Prif nod y sesiynau hyn ym mis Medi yw cynnig blas i oedolion o bob oed ac
o bob cefndir ar y cyfleon newydd ac arloesol sydd ar y gweill gan addysg uwch
i’w gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Cynllun Dysgu o Bell yn dechrau’n
swyddogol ym mis Medi 2014 felly mae digon o amser gennych i brofi beth sydd ar
gael. Bydd cyfranwyr o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Abertawe a Chaerdydd
yn cymryd rhan.
Os ydych chi yn chwilio am her newydd neu’n dymuno dilyn un o’ch
diddordebau, neu efallai eich bod am wella eich sgiliau ar gyfer byd gwaith,
dyma gyfle ardderchog ichi ddysgu yn eich amser eich hunan, wrth eich pwysau,
yn eich cartref eich hun ac yn eich iaith eich hun. Y cyfan sydd ei angen
arnoch yw awydd i ddysgu, cyfrifiadur a chyswllt band eang (broadband)
â’r we. Bydd dewis eang iawn o feysydd ar gael pan fydd y cynllun hwn yn
dechrau’n swyddogol ym mis Medi 2014 a bydd darlithwyr o brifysgolion ledled
Cymru yn cynnig pynciau difyr a defnyddiol. Felly ewch i’r wefan (colegcymraeg.ac.uk/dysguobell) i weld a oes rhywbeth o ddiddordeb ichi. Ac os ydych ar y we man a man ichi lenwi ein
holiadur cryno a di-lol i gael cyfle i ennill gwobr (£75).
Ni chodir tâl o gwbl am y sesiynau blasu ym mis Medi eleni felly does dim
byd i’w golli. Dewch draw i gael paned ac i weld a chlywed beth sydd gan addysg
uwch i’w gynnig ichi ac i gwrdd â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau
â chithau. I gadw lle cofrestrwch nawr: dysguobell@colegcymraeg.ac.uk (Dr Owen Thomas neu Lowri Morgans: 01970 628474). I gael y manylion llawn am
gynnwys a threfniadau’r sesiynau blasu ewch i: colegcymraeg.ac.uk/sesiynaublasu
No comments:
Post a Comment