Llongyfarchiadau i Gareth Edmondson ar ennill
cystadleuath yng nghylchgrawn Runner’s World i redeg y Paris Marathon.
Rhoddodd Gareth, sydd yn byw yn Brynaman gyda
Louise ei wraig, ei enw i mewn i gystadleuaeth ar gyfer cael lle i redeg y
Paris Marathon yn mis Ebrill. Allan o
2600 o bobl llwyddodd i gyrraedd y Bootcamp ble cafodd gyfle i gael diwrnod o redeg gyda hyfforddwyr proffesiynol yn Birmingham.
Yn dilyn hyn dewisodd Runner's World 19 o bobl allan o'r 50 yn y bootcamp i
gynrychioli amser arbennig. Roedd Gareth yn y grwp rhedeg marathon mewn llai na 5 Awr . Yna roedd rhaid i bobl bleidleisio. Ennillodd y bleidlais a’r wobr oedd:-
Yn dilyn hyn dewisodd Runner's World 19 o bobl allan o'r 50 yn y bootcamp i
gynrychioli amser arbennig. Roedd Gareth yn y grwp rhedeg marathon mewn llai na 5 Awr . Yna roedd rhaid i bobl bleidleisio. Ennillodd y bleidlais a’r wobr oedd:-
·
Mynediad i'r Paris Marathon yn
Ebrill gyda 4 enillydd arall
·
Hyfforddiant gan hyfforddwr
proffesiynol
·
Cefnogaeth physiotherapist, nutritionist a
psychologist a
·
Kit werth £1000 gan Asics a
Garmin
Mae Gareth nawr wrthi yn hyfforddi trwy ddilyn cynllun personol
sydd wedi cael ei baratoi yn arbennig iddo. Roedd yn hyfforddi/ymarfer dros y Nadolig!
Yn ogystal mae’n rhedeg i godi arian i CISS, sef “Cancer Information and Support
Services” yn Abertawe.
Os hoffech ei gefnogi yna y ffordd orau o wneud yw mynd i wefan
Just Giving a rhoi enw Gareth Edmondson yn y search. Dyma’r linc i’w dudalen http://www.justgiving.com/gjed75
Mae pawb yn Glo Man yn dymuno’n dda iddo yn ei ymdrech arbennig.
No comments:
Post a Comment