Llongyfarchiadau
i Daniel Leonard disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaun-Cae-Gurwen
ar ennill cwpan pencampwr y bechgyn ar gyfer Clybiau Gymnasteg Nedd Porth
Talbot.
Dechreuodd
Daniel fynychu’r clwb ‘Gym for All’, sy’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden
Pontardawe, nôl ym mis Medi diwethaf. Llwyddodd i ennill gradd 8 erbyn diwedd
ei dymor cyntaf.
O
ganlyniad i’w waith caled a’i ddyfalbarhad cafodd ei enwebu ar gyfer cwpan pencampwr
y bechgyn, ac yn ystod seremoni gwobrwyo blynyddol clybiau gymnasteg yr ardal
yn eu prif ganolfan yng Nghastell Nedd cafodd ei gyhoeddi fel yr enillydd. Mae
Daniel yn parhau i ddatblygu ei sgiliau gymnasteg a dymunwn pob llwyddiant iddo
i’r dyfodol.
No comments:
Post a Comment