Dyma lun hyfryd o Adele, Lili, Nel a Paul Davies, y teulu bach o Landybïe sydd ar daith fythgofiadwy o amgylch y byd. Tynnwyd y llun ar lannau Llyn Louise ym Mynyddoedd y Rockies yng Nghanada. Roedd Paul a’r teulu yn Seland Newydd dros y Nadolig a dathlwyd y flwyddyn newydd yn Sydney ger y bont enwog. Sgwn i os gwelon nhw’r Fari Lwyd?
Ymlaen i Asia a gwledydd Cambodia, Fietnam a Singapore nesaf ac rwy’n siwr eu bod yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn i weld mamgu, sef Mrs Beryl Davies, Pentregwenlais a Mrs Judith Nicholas sydd yn hedfan allan i Fietnam y mis hwn i’w cyfarfod. Siwrne a gwyliau da iddynt hwythau hefyd.

No comments:
Post a Comment