Cynhaliwyd Eisteddfod gyntaf Ysgol Maes-y-Gwendraeth ar ddydd Gwener, Chwefror 21ain. Diddanwyd y
beiriniad Aled Powys(gynt o Only Men
Aloud) a Dyfan Rees (Pobol y Cwm), y
disgyblion a’r staff gan ddawn amryw o unigolion a chorau’r pedwar llys
yn uno i ganu un o glasuron y genedl – Dwi
isie bod mewn band roc a rôl. Llys Non ysgubodd wobr y côr gorau, gyda llys
Arthne yn ennill y darian.
Ond aelod o lys Darog oedd enillydd prif seremoni’r
Eisteddfod, y Cadeirio, sef Cellan Evans, disgybl blwyddyn 13. Brodor o
Bontaman yw Cellan, yn gyn ddisgybl o Ysgol Gymraeg Rhydaman ac mae’n astudio
Cymraeg, Cerdd a Drama Safon Uwch gyda’r gobaith o gael lle yn un o
Brifysgolion Llundain i astudio Drama. Cadeiriwyd ei frawd Dafydd Llŷr yn
Eisteddfod Maesyryrfa yn 2007.
Ymson ar deimladau oedd tasg Cellan a theimladau
arweinydd y caethweision yn y frwydr yn erbyn y Rhufeiniaid oedd sylfaen ei
ymson. Nododd y beirniad, Mrs Elsbeth Jones, cyn ddirprwy’r ysgol, fod yr ymson
yn gelfydd a chrefftus a bod yr emosiwn o deimladau wrth i’r arweinydd
benderfynu marw dros ei bobl a
chyfiawnder, wedi cydio.
Dyma lun o’r enillydd
gyda Phennaeth yr ysgol Mr Iwan Rees a’r disgyblion eraill oedd ynghlwm â’r
seremoni
No comments:
Post a Comment