Llongyfarchiadau mawr i Ela Lewis a Megan James ar ddod
yn fuddugol ym mhrif gystadleuthau Eisteddfod yr Ysgol eleni. Enillodd Ela y
gadair am ysgrifennu llythyr at Sion Corn oddi wrth berson enwog ac enillodd
Megan y Goron am ysgrifennu darn o farddoniaeth ar y testun “Darlun”. Y beirniaid eleni oedd Mrs Eira Davies a Miss Ruth Bevan.
Yn y llun gwelir Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Rhydaman,
Mrs Jean Huw Jones gyda beirniaid y cystadleuthau rhyddiaith a barddoniaeth, Mrs
Eira Davies a Miss Ruth Bevan yn llongyfarch Ela Lewis a Megan James.
No comments:
Post a Comment