Cynhaliwyd Eisteddfod
Gwyl Dewi lwyddiannus iawn yr Ysgol ar ddydd Gwener, Chwefor 21ain. Cawsom groeso hyfryd gan y Brifathrawes,
Mrs.Donna Williams ac eleni yr oedd croeso mawr i deuluoedd y plant ac hefyd
ffrindiau yr ysgol i ymuno yn yr Ŵyl arbennig hon yng nghalendr yr ysgol. Hyfryd
oedd gweld neuadd yr ysgol yn orlawn ac yn llawn bwrlwm. Cafwyd croeso arbennig i Dewi ‘Pws’ Morris,
fel arweinydd, a hefyd ei wraig, Rhiannon yn ogystal a Mrs.Marlene Thomas a
Mrs.Mair Wyn fel beirniaid y cystadlu. .
Bu’r disgyblion yn cymeryd rhan yn frwdfrydig trwy ganu a llefaru yn
unigol ac mewn côrau, a buont hefyd yn cystadlu ar wahanol offerynau. Yr oedd y
plant wedi cael eu paratoi yn drwyadl gan wahanol athrawon yr Ysgol a mawr yw
ein dyled iddynt am wneud y gweithgareddau ychwanegol hyn. Cychwynwyd yr
Eisteddfod trwy ganu cân Ysgol y Bedol gyda Rhys Davies yn cyfeilio ar y piano.
Ysgrifenwyd y geiriau gan Mari Jones,
Athrawes Blwyddyn 6 yn yr Ysgol, a dyma hi:-
Croeso sydd
yma i bawb trwy
Ysgol lon
cwm y glo,
Dysgu a
chwarae dan yr un to
Croeso pwy
bynnag y bo.
Dathlwn,
dathlwn yr Aman ynghyd
Canolfan
gynnes, gynnes a chlyd,
Ysgol y
Bedol a’i swyn a’i hud
Porth addysg
newydd fyd.
Croeso,
croeso yw ein cân
Law yn llaw
cerddwn ymlaen
Teulu hapus
yn fawr a mân
A’n
hysbryd nawr ar dân!
Cafwyd hwyl
arbennig dan arweinyddiaeth Dewi ‘Pws’ ac fe gawsom sawl chwerthiniad iach. Pinacl y dydd oedd y cadeirio dan ofal Mari
Jones ac fe gafwyd teilyngdod. Yr
enillydd eleni oedd Megan Davies gyda Tyler Francis yn ail a Celyn Williams yn
drydydd. Yr oedd 42 o ddisgyblion wedi
cystadlu am y Gadair ac mae’n diolch yn fawr i Mrs.Marlene Thomas am
feirniadu’r gystadleuaeth. Gwnathpwyd y
gadair hardd gan Mr.Darrell Campbell a diolch o galon iddo yntau am wneud
cadair mor grefftus i’r gystadleuaeth. Yr oedd pedwar llys yr Ysgol yn cystadlu
sef Aman, Berach, Grenig a Pedol.
Llongyfarchwyd y llysoedd i gyd ar y terfyn gan Sian Priestland, y
Ddirprwy Brifathrawes, a fu yng ngofal cyfrifiad pwyntiau’r llysoedd dros y
gwahanol gystadleuthau.
Diolch o galon i Mr Adrian Thomas o’r Garnant am dynnu yr holl
luniau ar y dydd yn ôl ei arfer. Canwyd
ein Hanthem Genedlaethol ar ddiwedd yr Eisteddfod ac yr oedd y canu i’w glywed
drwy Gwmaman rwy’n siwr. Roedd hwn yn ddiwrnod i’w gofio a’i drysori yn wir ac
edrychwn ymlaen i Eisteddfod Gwyl Dewi 2015.
No comments:
Post a Comment