Y tymor diwethaf fe apwyntiwyd Mr Elfed Wood yn olynydd i Mr Paul
Mainwaring fel pennaeth ar Ysgol Gynradd y pentref.
Brodor
o Abergele yw Elfed ond er ei fod yn wreiddiol o’r gogledd y mae erbyn hyn wedi
gwario cymaint o flynyddoedd yn ne orllewin Cymru ag yn y gogledd. Cafodd ei
addysg brifysgol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a’i gytundeb cyntaf oedd
dysgu Cerddoriaeth am dymor yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, Llandysul. Cafodd
ei swydd llawn amser gyntaf yn Ysgol Talyllychau a oedd o dan arweinyddiaeth y
brifathrawes Mrs. Pauline Roberts-Jones. Ar ôl pum mlynedd yno derbyniodd swydd
fel pennaeth yn Ysgol Nantygroes, Milo a threulio sawl blwyddyn hapus yno yn
arwain yr ysgol.
Yn naturiol pan ddaeth
hysbyseb am swydd pennaeth yn ei ysgol gyntaf, sef Talyllychau, ceisiodd amdani
a dychwelodd yno yn brifathro. Cyn ei apwyntiad yn brifathro ar Ysgol Tycroes
ef oedd prifathro Ysgol Y Blaenau lle y bu iddo fwynhau yn fawr ei gyfnod.
Mae yn hynod ddiolchgar i bawb yn Nhycroes am eu croeso.
Mae’n ysgol hyfryd mewn ardal gyfeillgar iawn meddai ac y mae’n edrych ymlaen i
gydweithio gyda’r gymuned i ddatblygu’r ysgol ymhellach.
Mae ar hyn o bryd yn byw
yn y Tymbl Uchaf gyda’i briod Sara ac mae eu mab, Tomos, yn wyth mis oed. Mae
yn hoff o gerddoriaeth ac yn chwarae’r clarinet a’r piano. Mae hefyd yn hoff o
bob math o chwaraeon ac, wrth gwrs, yn cefnogi’r Scarlets. Croeso a phob
dymuniad da yn Nhycroes.
No comments:
Post a Comment