Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.1.11

CYLCH CINIO CYMRAEG RHYDAMAN YN DATHLU DEUGAIN OED

 
Yn ystod Cinio Dathlu Cylch Cinio Cymraeg yn ddeugain oed yn yr Hudd Gwyn, Llandeilo ar Nos Wener 3ydd Rhagfyr, cafodd aelodau a ffrindiau’r Clwb syrpreis arbennig wrth i Alwyn Humphreys, Wedi 3,ddod a chyflwyno Elfryn Thomas, Ysgrifennydd y Clwb gyda plat “Halen y Ddaear”.

Mae Elfryn wedi bod yn Ysgrifennydd ar y Clwb ers y cychwyn cyntaf a hynny am 40 mlynedd ac yn wir haeddu’r anrhydedd o fod yn Halen y Ddaear. Ydy hyn yn record?

Sefydlwyd Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman gan y Parchg Ronald Walters yn dilyn ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a’r dre yn Awst 1970. Trefnwyd Cinio Nadolig arbennig i ddathlu’r achlysur yn yr Hudd Gwyn, Llandeilo. I gychwyn y noson cawsom ein diddanu gan aelodau Ysgol berfformio Dyffryn Tywi dan lywyddiaeth medrus ei harweinydd Delyth Mai Nicholas. Diolchodd y Llywydd, Mr Calvin Davies, i Delyth Mai ac i holl aelodau’r ysgol berfformio am eitemau graenus dros ben a oedd yn wir gyfraniad i’r dathliad.
Does yr un parti yn gyflawn heb gacen Penblwydd ac ar ol bwyta pryd o fwyd blasus daeth Elfryn Thomas a’i wraig Bethan ymlaen i dorri’r deisen arbennig oedd wedi ei pharatoi ar gyfer yr achlysur.

Yna i orffen y noson cafodd aelodau’r Clwb gyfle i anrhydeddu’r Ysgrifennydd, a diolchodd y Llywydd Calvin Davies i Elfryn am ei holl waith. Cyflwynodd y Llywydd gloc llechen wedi ei ysgathru iddo fel arwydd o werthfawrogiad yr aelodau. Mae’r ffaith bod y Clwb wedi bodoli am 40 mlynedd yn arwydd pendant o waith diflino Elfryn.
Hefyd roedd yn gyfle i’r clwb ddangos ei ddiolchgarwch i’r Trysorydd Mr Hefin Williams, sydd wedi bod yn Drysorydd am 28 o flynyddoedd. Dyw hi ddim rhyfedd bod coffrau’r clwb cystal oherwydd gwaith medrus Hefin. Cyflwynodd Edwyn Williams, Cyn-Lywydd, gloc llechen i Hefin hefyd.

 

24.1.11

Goleuadau Nadolig ar gyfer Cwmgors

Dyna yw dymuniad pwyllgor llywio Cwmgors, gan iddynt mewn partneriaeth a Chyngor Cymuned Gwaun Cae Gurwen lwyddo un eu cais am arian gan "Celtic Energy Ltd". Ychydig o oleuadau sydd yng nghwmgors am mae'n debyg mai pyst pren sydd yno. Felly y bwriad yw cael rhywbeth ar draws y ffordd wrth i chi gyrraedd y pentref.
Yn y llun mae Mr Wayne Evans, Rheolwr Celtic Energy yn trosglwyddo'r siec i mrs Lynda Williams a'r pwyllgor

22.1.11

Pensiynwyr Tycroes yn dathlu’r Nadolig


Bu cinio Nadolig Adran Henoed y pentre yn y Mountain Gate, Tycroes yn noson hynod lwyddiannus. Cafwyd pryd bendigedig o fwyd yng nghwmni rhai gwesteion – Mr. Raymond a Mrs. Eirwen Thomas, Mr. Stephen a Mrs. Ruth Essery a’r Parch. a Mrs. Baxter (Ficer Plwyf Llanedi, Tycroes a Saron) a gyflwynodd y gras bwyd. Mi gafwyd gair gan Mr. Gareth Thomas, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanedi a oedd mewn cinio mewn ystafell arall. Cyflwynodd rhodd o £240 i’r adran oddi wrth y Cyngor Plwyf. Mi roedd busnesau’r pentref wedi bod yn hynod hael yn ôl eu harfer yn rhoi gwobrau i’r raffl. Llywyddwyd y gweithgareddau gan Mrs. Margaret Davies, Cadeirydd yr Adran. Diolchodd ar rhan yr aelodau i’r swyddogion sef y Cynghorydd Dewi Enoch, Ysgrifennydd; Miss Ann Cameron, Trysorydd; Mr. Ryal a Mrs. Mary Rees am drefnu’r gwibdeithiau ac i bawb sy’n helpu gyda’r te misol a mynd o gylch â’r Pryd ar Glud yn enw’r adran.

Eglwysi Cymraeg Tycroes yn Dathlu’r Nadolig

Ar yr ail Sul yn Rhagfyr death aelodau capeli Tycroes ynghyd i ddathlu’r Nadolig. Yng Nghaersalem oedd y gwasanaeth eleni â’r capel hwnnw ar ei newydd wedd wedi ei beintio’n barod erbyn yr achlysur.

Mrs. Gill Griffiths oedd wrth yr Organ a’r Parch. Dyfrig Rees oedd yn arwain yr oedfa. Cafwyd darlleniad hynod ystyrlon gan Mrs. Ray Jones, Bethesda a gweddi ddefosiynol a phwrpasol gan Mr. Geraint Roderick, Moreia. ‘Goleuni a’r goleuni dwyfol’ oedd thema pregeth y Parch. Dyfrig Rees ac fe gafwyd neges a gododd ein calonnau wrth i ni ddathlu’r Nadolig fel hyn.
Paratodd y chwiorydd luniaeth hael ar ein cyfer yn y festri ac fe ddiolchwyd gan Elfryn Thomas, Moreia am y wledd o fwyd. Casglwyd dros £60 tuag at Cymorth Cristnogol.
Ein cyfarfyddiad nesaf fydd yn y Sulgwyn pryd y byddwn yn dathlu’r Pentecost gyda’n gilydd ym Moreia ar brynhawn Sul, Mehefin 12fed, 2011 am 2.30 o’r gloch

7.1.11

SIOP Y CENNEN YN DATHLU 1985-2010

Mae Slop y Cennen, Rhydaman newydd ddathlu cwarter canrif o fodolaeth. Dyma lun o SUPERTED yn agor y siop yn 1985.Ydych chi'n coflo'r achlysur?Ydych chi yn y Ilun? Ydych chin cofio 1985?

Pedair Cenhedlaeth

Yr oedd dathlu mawr yn nheulu y Thomas’s yn ddiweddar pan anwyd Steffan Rhys i Gareth a Nicola Thomas.  Mae Gareth yn wreiddiol o Glanaman ac yn awr yn byw yn Nhirydail, Rhydaman.  Mae Steffan yn ŵyr cyntaf i David a Glenda Thomas, Glanaman ac yn or-ŵyr cyntaf i David Thomas, Heol Tir-y-Coed, Glanaman.  Dyma bedair cenhedlaeth ac y mae hwn yn achlysur arbennig iawn.  Llongyfarchiadau a pob dymuniad da i’r teulu bach.

90 oed- Donald Gwyn Bowen

Llongyfarchiadau mawr i Donald Gwyn Bowen, 3 Heol yr Orsaf Isaf, Garnant (yn wreiddiol o Brynlloi, Glanaman) ar ddathlu ei benblwydd yn 90 oed ar y 3ydd o Dachwedd.    Yn ystod y rhyfel roedd Donald yn y Llu Awyr ac ar ddiwedd y rhyfel daeth yn ôl i’r cwm i briodi y diweddar Dilys (Jenkins).  Bu Donald yn gweithio yn Teddingtons, Pontarddulais am dros 30 mlynedd nes iddo ymddeol. Ei ddiddordeb dros y blynyddoedd ac i gadw yn iach, oedd cerdded y Mynydd Du, ac hefyd mae’n aelod o’r Lleng Brydeinig.  Mae Donald yn dad i Delyth a Gaynor, yn dadcu i Peter, Helen ac Alana, a hen-datcu i Rhodri a Sion.  Bu Donald yn dathlu’r achlysur arbennig hwn gyda’i deulu yn ei gartref.  Dymunwn bob dymuniad da iddo i’r dyfodol ac iechyd da hefyd.

T.R.J. yn dathlu 75 oed - Hanes y Cwmni

Twls saer ar gefn beic modur – dyna sut ddechreuodd y cyfan! Ym 1935, penderfynodd Thomas Richard Jones ei fod wedi cael digon o weithio i eraill a phenderfynodd mai gweithio ar ei liwt ei hun oedd yr ateb. Yn benderfynol, aeth ati – efe a’i fag llond twls – i chwilio am waith, a phrin aeth diwrnod heibio na lwyddodd i ddod o hyd i ryw waith neu’i gilydd.
Roedd ei ddycnwch i’w edmygu ac mewn dim o beth roedd e’n cyflogi eraill ac yn mynd i’r afael a chytundebau llawer mwy nag o’r blaen, yn adnewyddu neu’n ymestyn, cyn symud yn ei flaen at ymgymryd â gwaith adeiladu o’r newydd. Mae rhai enghreifftiau o’i brosiectau cynnar yn dal i’w gweld yn yr ardal – nifer o dai lleol, yr Uned Famolaeth yn Ysbyty Dyffryn Aman, ac efe hefyd trodd Plasty Gelli Aur yn Goleg Amaethyddol.
Ei wraig, Eurllys, oedd yn gyfrifol am y gwaith gweinyddol, ac ar y cyd llwyddodd y ddau i sicrhau bod y cwmni yn mynd o nerth i nerth a chyda dyfodiad dau fab, Huw a David, roedd y dyfodol bellach yn fenter deuluol. Aeth Dave i weithio gyda’i dad ym 1961 ac ym 1964 ymunodd Huw, a’r ddau ohonynt, wedi iddo ef hyfforddi yn Beiriannydd Sifil ac ennill profiad gyda chwmni cenedlaethol yn gyntaf. Penderfynwyd troi’r cwmni yn gwmni cyfyngedig ym 1971 a bu’r ddau frawd a’u tad yn cydweithio hyd at 1973 pan benderfynodd Mr Jones, y tad, rhoi’r twls ar y bar!
Erbyn hynny roedd gan TRJ restr eang o glientiaid ac roedd y cwmni’n cyflogi tua hanner cant o staff. Yn ystod y 1980au daeth yr amser i’r drydedd genhedlaeth chwarae’i rhan pan ddaeth meibion Huw, yn gyntaf, yn rhan amlwg o’r cwmni – Dafydd ym 1981 ac Owain ym 1989 – ac yna yn hwyrach yn y 90au ymunodd John, mab Dave, ag hwy hefyd.
Heddi, mae Dave yn weithredol weithgar o hyd, gydag Huw, er ei ymddeoliad o’r gwaith bob dydd, yn dal yn Gadeirydd y Bwrdd, ond bellach, cyfrifoldeb Dafydd, Owain a John yw arwain y cwmni yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn sicr, mae arwyddair y cwmni “Adeiladu ar Sylfaen Gadarn” yn dyst i’r ymdrech a wnaed gan y cenedlaethau a fu, ac yn ddios yn deyrnged i lwyddiant yr hyn a ddel.
Help / Cymorth