Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.12.09

Apêl Uned Babanod Gofal Arbennig Ysbyty Singleton

Ganwyd Cerys Mair Thomas dri mis yn rhy gynnar, ac yn pwyso 1pwys 12owns, ac yn un o efeilliaid. Yn drist iawn bu farw ei brawd bach Rhys Pedrick Thomas. Treuliodd Cerys y tri mis cyntaf o’i bywyd mewn ‘incubator’, syn’n costio £2,000 y dydd i’w redeg (£26,000 i brynu un) Hefyd mae wedi cael 3 llawdriniaeth, a hynny mewn 3 ysbyty wahanol Mae Cerys yn ferch i Cherie a Christopher Thomas o Gae Newydd, ac yn wyres i’r diweddar Yvonne a Keith Thomas gynt o Heol Crescent, ac yn wyres i Lyneth a Brian Thomas o Gwmllynfell. Mae Gail (Gwallt gan Gail) yn ffrind ffyddlon i’r teulu ers blynyddoedd ac wedi bod yn allweddol yn yr apêl hwn, ei syniad hi oedd e, ac mae’n ddiolchgar iawn i’w ffrindiau a’u chwsmeriaid ac aelodau’r gymuned am eu cefnogaeth eleni eto. Mae teulu a ffrindiau Cherie a Christopher hefyd wedi bod yn brysur iawn yn trefnu gwahanol weithgareddau. Trefnwyd cinio yn y Raven Y Garnant, a noson yn y ‘Royal Kitchen Chinese’ Pontaman. Codwyd yn agos i £400 rhwng y ddwy noson Gwerthwyd nwyddau a thocynnau raffl yn siop Gail a chodwyd £1,400. Nos Sadwrn Tachwedd 7ed cafwyd noson lwyddiannus iawn yng nghlwb ‘Y Bryn Social’ Cwmllynfell gyda Lisa Pedrick a r band Peri, a roedd raffl fawr yno gyda 33 o wobrau sylweddol iawn, diolch i bawb a’u cyfrannodd. Casglwyd dros £1000 y noson honno. Y cyfanswm diweddaraf yw £3,173.
Erbyn hyn mae Cerys yn 8 mis oed ac yn pwyso 12 pwys 1owns, ac yn cryfhau bob dydd Dymuna Cherie Christopher a Cerys fach ddiolch i bawb am bopeth.

29.12.09

PENBLWYDD 90


Dyma lun Mr D. Austin Thomas o Frynaman yn torri'r deisen i ddathlu ei benblwydd yn 90 oed yn ddiweddar. Cafodd barti yn Neuadd Gymunedol Eglwys y Santes Catrin yng nghwmni ei deulu a'i ffrindiau ar brynhawn Sadwrn, 10 Hydref. Tynnwyd y llun gan Sion Jones o Gastell Newydd Emlyn, sy'n briod a Mererid, nith Austin.

Dthlodd y teulu agos mewn cinio ar y Sul ac yna dathliad arall yn y Clwb Cinio yng Nghanolfan Gymunedol y Mynydd Du, gyda teisen arall.

Dathlu Canmlwyddiant Eglwys Hermon


Ar ben wythnos 7fed ar 8fed o Dachwedd 2009, dathlwyd Hermon Capel yr Annibynwyr, Brynaman Isaf, canmlwyddiant yr Eglwys.
Roedd yn hyfrydwch ein bod yn gallu croesawu cyd-gristnogion i’r oedfa, ynghyd a ffrindiau a chyn aelodau a oedd wedi gwneud yr ymdrech i ddod yn ôl i’w hen gynefin.
Cyfeiriodd ein llywydd anrhydeddus, Y Parchedig Athro Maurice Loader, BA BD Caerfyrddin un o gyn Weinidogion y capel, ein bod yn ffodus o gael cwmni Mrs Delora Morris, Porthcawl, wyres ein gweinidog cyntaf, sef y Prifardd Parchedig Alfa Richards.
Roedd y dathliad ei hun ar brynhawn Sadwrn y 7fed o Dachwedd am 1.30yp. Ar ôl gair o groeso gan y llywydd, dechreuodd y gwasanaeth pan offrymwyd yr Alwad i Addoli gan Ficer Brynaman, Y Parchedig Adrian Teale. Darllenwyd o’r Ysgrythur gan y Parchedig Peter Harris Davies a offrymwyd y weddi gan y Parchedig Ryan Isaac Thomas. Roeddent wedi creu awyrgylch dwys a bendithiol i’r oedfa.
Ar ôl derbyn yr offrwm, cawsom cyfarchion twymgalon a hwylus oddi wrth Gapeli ac Eglwys Brynaman. Yn cynrychioli Capel Bethania oedd Mrs Thelma Jones; Ebenezer - Mrs Anita Humphries; Gibea- Miss Mair Thomas; Moriah - Mr Glynog Davies; Siloam - Mr Brian Humphries ag Eglwys Santes Gatrin - Y Parchedig Adrian Teale.
Cawsom gyflwyniad ar lafar ac ar gan o hanes yr Eglwys. Mae’n dyled ni’n fawr, a diolchwn o galon i Mrs Glenys Kim Protheroe am greu Cyflwyniad o safon am ganrif Eglwys mor fyth gofiadwy, a chael ei chynorthwyo gan Mr Walford Morris ar y gerddoriaeth.
Wedi terfyn y Cyflwyniad, ag yng ngeiriau’r llywydd Parchedig Maurice Loader “Nid wyf wedi mwynhau fy hun gymaint erioed a phrynhawn yma, ‘ydych yn flaenllaw i Gapeli ag Eglwysi i’ch dilyn sut i ddathlu” - bythgofiadwy.
Wedi’r oedfa prynhawn Sadwrn, roedd Te’r Dathlu [a gwledd roedd hi] wedi ei pharatoi yn Neuadd Gymuned Gwaun Cae Gurwen gan Mrs Eryl Morris a hithau yn cael ei chynorthwyo gan Mrs Pamela Probert. Roedd yno deisen y canmlwyddiant wedi ei gwneud gan Mrs Pamela Davies. Rhoddwyd yr anrhydedd o’i thorri i Mrs Ethel Davies, gwraig sydd a’i gwreiddiau yn ddwfn yn Hermon. Dyma'r lle y bedyddiwyd ac mae yn dal i fynychi’r cyfarfodydd pan mae’r iechyd yn caniatâi, a hithau yn eu nawdegau. Rhoddwyd y deisen gan Mr a Mrs Ken Davies.

28.12.09

ANNE WALTERS - "IT'S MY SHOUT"




Mae Anne Walters o Frynaman yn adnabyddus i drigolion yr ardal, - fel cyn athrawes Saesneg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ac hefyd fel aelod blaenllaw o Gwmni Drama'r Gwter Fawr. Yn ystod mis Medi , bu'n cymryd rhan y cymeriad Rhiannon mewn drama fer o'r enw "Pwca" , cyfieithad Cymraeg gan Sharon Morgan o sgript gan Jimmy Swindells. Bu'n ffilmio ar fferm yn Ynysybwl, ger Pontypridd.
Roedd y cyfan yn rhan o gynllun "It's my Shout" - cwmni sy'n rhoi cyfle i sgriptwyr, actorion a thechnegwyr i gael profiad ymhob agwedd o baratoi drama ar gyfer y teledu. Roedd chwe drama yn cael eu ffilmio - rhai yn Gymraeg a rhai yn Saesneg. Byddant i'w gweld ar y sgrin fach yn ystod mis Rhagfyr.
Cynhaliwyd Noson Wobrwyo yn Y Pafiliwn ym Mhorthcawl ar ol gorffen y ffilmio i gyd ac Anne dderbyniodd y Tlws am yr Actores Gynorthwyol Orau.
Llongyfarchiadau gwresog iddi.

PENRHYD YNG NGWYL GERDD DANT CYMRU

Bu partion dawnsio gwerin a chlocsio Adran Penrhyd yn llwyddiannus iawn pan fuont yn cystadlu yng Ngwyl Cerdd Dant Cymru a gynhaliwyd yng Nghasnewydd eleni. Roedd tri parti yn cystadlu yn yr oedran cynradd, ac enillodd un parti'r wobr gyntaf ac un arall y drydedd wobr. Yn yr oed uwchradd cafodd y parti dawns yr ail wobr. Enillodd Penrhyd u wobr gyntaf yn y gystadleuaeth agored, a dau grwp closio yn ennill ail a thrydedd gwobr. Llwyddiant yn wir! Llongyfarchiadau i'r cystadleuwyr oll a'u hyfforddwyr, Mrs Jennifer Maloney a Mrs Karen Davies.

CYMORTH CRISTNOGOL


Cynhaliwyd cwis blynyddol Cymroth Cristnogol tref Rhydaman ar Nos Wener 13 Tachwedd yn Neuadd Gellimanwydd. Er gwaethaf y tywydd stormus y tu fas daeth chwech Capel ac Eglwys i gystadlu.
Roedd nwyddau Traidcraft a cardiau Nadolig Cymorth Cristnogol ar werth.
Edwyn Williams oedd y cwisfeistr a cafwyd noson llawn hwyl yn ceisio ateb yr amryw gwestiynau.
Tim Gellimanwydd oedd yn fuddugol, sef y Parchg Dyfrig Rees, Mandy Rees, Mairwen Lloyd, Gwenfron Lewis ac Arnallt James. Llongyfarchiadau iddynt.

Diolch i bawb am drefnu noson hwylus arall yng nghalendr gweithgareddau Cymorth Cristnogol yn y dref. Wedi'r cystadlu cawsom gyfel i sgwrsio dros gwpanaid o de a bisgedi.

22.12.09

CYMDEITHAS GELLIMANWYDD


Nos Fercher 4 Tachwedd daeth Cwmni Drama y Gwter Fawr i Neuadd Gellimanwydd i gyflwyno dwy ddrama, sef "Corfu" a "Domino".
Braf oedd gweld y neuadd yn gyfforddus lawn. Cafwyd noson bleserus dros ben gyda dwy ddrama llawn hiwmor ac ambell i gyffyrddiad teimladwy iawn. Mel Morgans oedd cyfarwyddwr y ddrama gyntaf ac Anne Walters yr ail.
Hanes gŵr a gwraig yn mynd ar wyliau oedd y gyntaf, gyda'r gwas yn chwarae rhan allweddol. Yn yr ail cawsom hanes noson ymarfer domino rhwng pedair wraig weddw oedd yn aelodau o'r gangen leol o Ferched y Wawr.
Diolch i bawb am drefnu noson lwyddiannus arall yng nghalendr Cymdeithas Gellimanwydd.

19.12.09

Madam Lynne Richards

Ar drothwy’r Nadolig fe fydd Madam Lynne Richards, Heol Pontarddulais, Tycroes yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 90 oed. Athrawes oedd yn ôl ei galwedigaeth ond fe chwaraeodd canu rhan bwysig yn ei bywyd. Bu yn canu am dros hanner can mlynedd ynghyd â beirniadu am ddeugain mlynedd.
Decheuodd ei gyrfa yn y cyngherddau ‘Welcome Home’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yna bu’n cystadlu yn yr Eisteddfodau a hynny o dan anogaeth ei hathro cerdd, Gwilym R. Jones. Yr oratorio gyntaf iddi berfformio oedd ‘Y Meseia’ yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman gyda Gwilym R. Jones yn arwain y côr a Trevor Rees wrth yr organ.
Ei hail athro canu oedd Bryn Richards, Gorseinon. Ychydig feddyliodd y byddai’r athro canu hwn yn dod yn diweddarach yn ŵr ac yn gyfeilydd iddi. Ef, heb os, oedd y dylanwad mwyaf arni ac arweiniodd i lwyddiant ei gyrfa gerddorol – ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, Ystradgynlais a Llanrwst ac yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Yna ennill Telyn Arian Gŵyl Gerdd Llandudno. Enillodd hefyd dair Medal Aur ac ar ôl ennill y Rhuban Glas gorffennodd gystadlu a dechrau beirniadu a chanu mewn oratorios a chyngherddau.
Yn ystod ei gyrfa cafodd gyfle i ganu gyda rhai o gantorion amlycaf Llundain. Mae wedi gorffen canu yn proffesiynol ers llawer blwyddyn bellach ond fe fydd yn amal iawn yn canu yng nghyfarfod y Deillion yn Rhydaman.
Un o bleserau mawr Lynne oedd teithio’r byd a bu o amgylch y byd ddwy waith gan ymweld â’r Amerig, Seland Newydd ac Awstralia nifer o weithiau.
Mae ei hwyres, Dr. Sharon Brierley, a’i theulu yn byw yn Melbourne, Awstralia ac mae’n nhw’n dod adref i Dycroes i ddathlu penblwydd arbennig ‘Mam Tycroes’

15.12.09

CALENDR 2010 AR WERTH

Mae calendr Glo Man ar werth oddi wrth eich gohebwyr lleol neu yn Siop Y Cennen. Neu cysylltwch ag Edwyn Williams drwy ebostio edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk neu ffonio 01269 845435 er mwyn derbyn copi. Pris yw £3 + pris postio.


Dymuniadau gorau dros yr Wyl
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.






Help / Cymorth