Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.3.09

CADAIR EISTEDDFOD YSGOL DYFFRYN AMAN

Llongyfarchiadau i Nia Mair Jeffers, Tir y Dail, Rhydaman ar ddod yn fyddugol yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Ysgol Dyffryn Aman 2009.
Mae Nia yn ddisgybl ym mlwyddyn 12 yn yr ysgol ac yn astudio Cymraeg, ymysg pynciau eraill.
Y testun ar gyfer y Gadair eleni oedd Ymson Carcharor. Dewisiodd Nia ysgrifennu am brofiad un o'r Iddewon yn y ffwrnesi nwy adeg yr Holocaust.
Yn y llun mae Mr Steve Perks, Pennaeth yr ysgol yn gwobrwyo Nia.


28.3.09

PRIODAS

Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Nia Wyn Hopkins o Frynaman ac Aled Lyn Davies o Benygroes ar achlysur eu priodas yng Nghapel Carmel, Gwaun Cae Gurwen ar yr unfed ar hugain o Chwefror. Bu'r wledd yng ngwesty'r Plough. Rhosmaen. Mae Nia yn athrawes y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac Aled yn raglennydd cyfrifiadurol yn Athrofa Abertawe.

NEUADD HODDINOTT

Testun balchder i aelodau Carmel ac i bentrefwyr y Waun oedd gweld a chlywed yr hanes am enwi'r neuadd newydd sy'n rhan o Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Dyma gartref newydd i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Er y gwyddai y cyfansoddwr disglair a byd enwog Alun Hoddinott y byddai yn cael ei anrhydeddu yn y modd arbennig hwn, yn drist iawn, ni fu byw i fod yno, - bu farw y llynedd. Priodwyd Rhiannon Huws, merch y diweddar Barchedig a Mrs Llewelyn C. Huws cyn weinidog Carmel a Alun Hoddinott yng Ngharmel ym 1953.
Cynhaliwyd cyngerdd agoriadol gyda'r gerddorfa a Llyr Williams yn canu'r piano. Mae cyfleusterau gwych yn y neuadd, mae lle i'r gerddorfa gyfan a lle i'r côr, i ymarfer, recordio, a chynnal cyngherddau i hyd at 350 o bobol.
Mae Robert Samuel, ŵyr y diweddar Barchedig a Mrs Irfon Samuel, ail drwpedwr yr adran bres, yn hapus iawn gyda'r cartref newydd. Mae'r BBC wedi comisiynu gwaith celf trawiadol wrth fynedfa'r neuadd sy'n ddathliad o fywyd y cyfansoddwr.
Coffâd teilwng i gyfansoddwr arbennig.

25.3.09

Prif Ferch Ystalyfera


Llongyfarchiadau gwresog i Glesni Euros ar ei phenodi'n Bennaeth y Merched yn Ysgol Gyfun Ystalyfera am y flwyddyn ysgol 2009-10. Mae Glesni yn ei blwyddyn gyntaf o'i chwrs Lefel A yn astudio Ieithoedd Modern.
Mae'n siwr y byddai ei thadcu, y diweddar Kendrick Lewis, yn ymfalchio'n fawr yn ei llwyddiant fel mae gweddill y teulu.

Cwpan Coffa Len Ward


Bydd Seindorf Arian Gwaun Cae Gurwen yn cyflwyno Cwpan Coffa Len Ward yn flynyddol i'r aelod fydd wedi dangos y gwelliant mwyaf yn ystod y flwyddyn.
Leah Louise Rhys o Heol Godfrey, Brynaman Isa', dderbyniodd y cwpan eleni o law Mr Glyn Rhys Davies, Cyfarwyddwr Cerdd y seindorf. Mae Leah yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac mae hi, ei chwaer Hannah a'u mam Eloise yn aelodau ffyddlon o'r seindorf.

Llongyfarchiadau i Leah a phob hwyl i'r Band.

DE AFFRICA - APEL YR UNDEB

Tan ddiwedd Mehefin eleni mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cynnal apel arbennig i gefnogi gwaith Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica. Gobeithir codi £250,000 drwy'r enwad i gyd. Gan fod Eglwys Moreia yn aelod o'r Undeb clustnodwyd swm o £l,640 yn darged ar ei chyfer.
Yn ei lythyr apel i aelodau'r Eglwys a aeth allan ddiwedd Ionawr gyda'r Adroddiad Blynyddol cyflwynodd y Parchg Dyfrig Rees rhai ystadegau syfrdanol:
"Er i apartheid ddod i ben yno yn 1984 mae'n wlad sy'n gwynebu problemau anferth. Allan o boblogaeth o 47 miliwn mae dros 5 miliwn yn HIV positif — mwy nag un gwlad arall yn y byd; mae 20 miliwn yn byw ar lai na £l y dydd; mae 50% o'r boblogaeth o dan 20 oed a 30% o dan 15 oed; mae un miliwn o blant amddifad oherwydd Aids."
Cafwyd dechreuad da i'r apel ym Moreia ym mis Hydref y llynedd pan y gwnaed £370 o elw ar y Swper Cynhaeaf ac erbyn canol Chwefror rydym dros harnner fordd i gyrraedd y nod. Gobeithir gyda chyfraniadau'r aelodau a'r Cawl Gwyl Ddewi i gyrraedd y targed.

24.3.09

PENBLWYDD HAPUS


Penblwydd hapus i Mrs Decima Evans o Heol y Felin, un o aelodau hynaf Capel Newydd Betws, a ddathlodd ei phenblwydd yn 90 ar Chwefror 1af. Yn y llun mae Sara Jones, un o aelodau ifancaf yr Ysgol Sul, yn cyflwyno basged o flodau iddi.

Hefyd Penblwydd hapus i Mr Meurig Evans, sydd nawr yng Nghartref Annwyl Fan, a ddathlodd ei benblwydd yn 98 ar Fawrth y 5ed. Mae ei feddwl a'r ysfa greadigol ar waith o hyd. Dyma ddau esiampl o'i waith diweddar sy'n dangos cymaint ei ddiddordeb ym mhynciau'r dydd.

Llain Gaza
Hen gynnen Ile bu'r geni — a'r ffrae
Yn ffrwydro o bobtu,
Trist yw mynwes yr Iesu
A chariad ein Ceidwad cu.
T. Llew Jones
Galwodd blant Cymru yn eglur — a'u dwyn
Yn dyner ar antur,
Popeth yn fyw ar bapur
Pob eiliad yn brofiad pur.

23.3.09

PRIODAS DDIEMWNT BETTY A ROY REES


Ar Ddydd Nadolig 1948, fe unwyd Betty (Quinlan gynt) a Roy Rees mewn glan briodas yn Eglwys Glanaman, a mae nhw newydd ddathlu eu priodas ddiemwnt. Mae ganddynt chwech o blant, un-ar-ddeg o wyrion ac hefyd ddau or-wyr. Llongyfarchiadau mawr i chi eich dau ar yr achlysur arbennig hwn a gobeithio y cewch iechyd da i’r dyfodol. Ar ran cymuned Cwmaman fe rhoddwyd torch o flodau i Betty a Roy gan y Maer a’r Faeres, sef Dafydd a Mair Wyn.

22.3.09

Ymddeoliad y Parchedig Ganon John H. Gravel, BA

Daeth ymddeoliad y Canon Gravel o'r weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru ar 31 ain Ionawr 2009. Ei blwyf olaf oedd Llandybie gyda Llandyfan a St Marc Cwmcoch, Ile bu'n ficer am dros dair mlynedd ar ddeg, gydag adeg o chwe mlynedd yn gwasanaethu hefyd fel Deon Bro, Dyffryn Aman.
Fe'i ganed yn Llanymddyfri yn 1945 lle'r oedd ei dad yn gurad, a phan yn un-ar-ddeg oed symudodd y teulu i Gilgerran. Mynychodd Ysgol Ramadeg Aberteifi, graddiodd mewn Daearyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth ac ar ol dilyn cwrs Tystysgrif Addysg bu'n astudio Diwinyddiaeth yng Ngholeg Llambed. Cafodd ei ordeinio i'r weinidogaeth sanctaidd ar ddydd San Pedr 1968. Treuliodd ei guradaeth yn Aberystwyth ac fe'i gwnaed yn Rheithor plwyf Llangeitho yn 1972. Yn 1981 daeth yn ficer Llannon a'r Tymbl, a symud i Landybie yn 1995. Bu'n Ganon cadeirlan Tyddewi ers 1992 ac mae'n un o ddewiswyr taleithiol yr Eglwys yng Nghymru.
Yn fawr ei barch gan bawb sy'n ei adnabod mae'r Canon yn arweinydd arbennig i ddod a phobl i adnabod Duw ac i dderbyn iachawdwriaeth trwy Iesu Grist. Mae'n debyg y bydd yn cael ei gadw'n brysur ym mhulpudau gwag eglwysi a chapeli'r cylch a bydd hyn wrth ei fodd er mwyn parhau i ledaenu'r Newyddion Da.

Yn ystod gwasanaeth teuluol bore Sul 25ain Ionawr cyflwynwyd tystebion ac anrhegion i'r Canon a'i wraig Morfudd gan wardeniaid eglwys y Santes Dybie, Cor yr Eglwys, yr Ysgol Sul ac Undeb y Mamau. Hefyd cawsant roddion gan eglwysi Llandyfan a St Marc, Glwb Radio Llandybie ac anrhegion, cardiau a dymuniadau da oddi wrth nifer fawr o gyfeillion yn y gymuned leol.
Fe welwn eisiau'r Canon yn Llandybie, gyda'i ddysgeidiaeth a'i bregethau ysbrydol o'r Ysgrythurau a'i gyfeillgarwch ef a Morfudd. Atgoffodd ni, yn ei lythyr olaf i'r plwyfolion, ein bod fel pobl meidrol wedi cael ein galw i weinidogaethu ymhlith pobl meidrol, ac fe allwn mewn cariad ac amynedd adeiladu ein gilydd i gyflawni pwrpas Duw yn ein bywydau er gogoniant Ei enw mawr.
Dymunwn pob bendith a hapusrwydd iddynt yn eu cartref newydd yn Rhydaman.

CYLCH CINIO TYBIE

Blin oeddem fel aelodau'r Cylch i glywed bod Ficer Pontarddulais, y Parchedig John Walters, yn methu a bod gyda ni yng nghyfarfod mis Ionawr oherwydd afiechyd. Dymunodd y Cadeirydd yn dda iddo ar ein rhan ac edrychwn ymlaen i'w glywed rhywbryd eto yn y dyfodol.
Llanwyd y bwlch gan ein haelod teyrngar Gethin Rees. Ar fyr rybudd cawsom gwis diddorol a doniol ganddo ac mae ein diolch yn fawr iddo.
Noson y gwragedd oedd hi i fod yn ein cyfarfod ar nos Sadwrn y 7fed o Chwefror yn y Clwb Golff a'r gwestai oedd Glan Davies, and yn anffodus bu rhaid gohirio'r cyfarfod oherwydd yr eira. Gobeithir y bydd modd ail-drefnu'r noson yn y dyfodol.
Gofalwch gysylltu a'r ysgrifennydd, Hywel Davies (01269 850748) neu un o'r swyddogion os am fanylion pellach am gyfarfodydd y Clwb.

20.3.09

EISTEDDFOD GARNSWLLT

Wrth edrych ar y newyddion a gweld wynebau fel Gari Owen ag eraill fel Meinir ag Eirian o Gwmann, Elsie Mainwaring Nicholas, Tom ag Idris Daniels, Graham Williams, Gladys Davies, Alun a'i chwaer Bethan Cairns, Enfys Jenkins, Edgar Jones, Ieuan Evans, Jennifer Evans Clark a nifer eraill a chofio iddynt oll ddechrau llwyfannu mewn eisteddfodau bach ar hyd a lled y wlad beth am ddod a'ch plant i gystadlu yn Eisteddfod Gamswllt?
Bu eisteddfod yng Nghapel Gerazim ers tua 1847 a hefyd eisteddfod ieuenctid yn Noddfa ar nos Wener ac eisteddfod agored drwy'r dydd Sadwrn.
Cynhaliwyd yr eisteddfod yn y Neuadd ers 1959/60.
Bu Gloria Lloyd yn cyfeilio ers dros 48 mlynedd heb golli ond un eisteddfod yn ystod y blynyddoedd a hynny o anhwylder.
Cynhelir yr eisteddfod eleni ar nos Wener, yr 8fed o Fai. Y beirniaid fydd Mair Wyn o Lanaman a Berian Lewis B.Mus., A.L.C.M.. Dip.Ed. o Gross Hands. Y gyfeilyddes fydd Gloria Lloyd B.A., L.R.A.M., A.R.C.M., L.T.C.L., Rhydaman. Y Llywydd fydd y Cynghorydd Audrey Jones, Betws.

19.3.09

BRWYDR Y BANDIAU

cynhaliwyd rownd gyntaf cystadleuaeth Brwydr Y Bandiau Radio Cymru C2 yng Nghanolfan yr Aman, Rhydaman yn ddiweddar. Mae’r gystadleuaeth yma wedi bod yn fan cychwyn i nifer o fandiau mwyaf llwyddiannus y sin roc Gymraeg ac mae’n gyfle gwych i fandiau ifanc newydd gael sylw ac i ddod a’u caneuon gerbron y genedl. Bu 5 band yn cystadlu ar y noson, gan gynnwys 3 band o ardal Rhydaman a daeth dros gant o ieuenctid yr ardal i gefnogi’r noson, gan sicrhau cynulleidfa dda i’r bandiau ifanc. Barnwyd fod ‘NEVARO’, ‘JIBINCS’, a ‘SMASHING DIAMONDS’ yn haeddiannol i fynd drwyddo i’r rownd nesaf, er mae’n rhaid dweud fod y safon yn uchel iawn ar y noson, a’r ddau fand arall yn anlwcus iawn i beidio â mynd drwyddo. Dymunwn bob lwc i’r 3 band yn y rownd nesa ac rydym yn falch iawn i weld fod bandiau a cherddoriaeth Cymraeg yn cael gymaint o gefnogaeth gan bobl ifanc Rhydaman.

18.3.09

CWIS BEIBLAIDD

Ar brynhawn Sul Chwefror 1af daeth tyrfa niferus ynghyd i Neuadd Gellimanwydd, Rhydaman i gefnogi plant y dalgylch wrth iddynt gystadlu mewn Cwis Beiblaidd o dan drefniant Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Cymerwyd rhan gan 10 o Ysgolion Sul a chafwyd prynhawn llawn hwyl a chyffro wrth i’r plant ddangos dyfnder eu gwybodaeth trwy ateb cwestiynau wedi eu gosod mewn amrywiaeth o ffyrdd deniadol.
Roedd yr achlysur yn un proffesiynol a chyfoes gyda bysyrs electronig, power point, a system sain. Roedd ymateb y plant yn frwdfrydig a da oedd gweld y to ifanc yn cael hwyl o gwmpas y Gair.

Roedd y gystadleuaeth yn un bywiog a difyr. Cael hwyl wrth gymryd rhan oedd y peth mawr, ond yn sgìl hynny, mae`n amlwg bod y plant wedi dysgu llawer, a gobeithio magu blas tuag at Air Duw.

Roedd y canlyniadau fel a ganlyn:
1af – Penuel, Caerfyrddin
2ail – Providence, Llangadog


Cyflwynwyd cwpan sialens i`r tîm buddugol ynghyd a thlysau unigol i`r plant hynny wnaeth gyrraedd y rownd derfynol gan gadeirydd y Fenter, sef Mr. Mel Morgans.
Dymuna Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin nodi gwerthfawrogiad o`r defnydd a gafwyd o Neuadd Gellimanwydd ac o garedigrwydd chwiorydd y capel i ddarparu lluniaeth ar gyfer y timoedd.

17.3.09

CLWB ROTARI RHYDAMAN


Ar Nos Fercher,21 ain Ionawr; cynhaliodd y Clwb Rotari noson arbennig yng Nghanolfan Aman.Pwrpas y noson oedd dosbarthu yr elw a wnaed o redeg y Carnifal (neu y Dydd Mawr fel ei gelwir).
Dosbarthwyd dros £3,550 i chewch a`r hugain o elusennau a mudiadau gwirfoddol o fewn y cylch a gwelir eu cynrychiolwyr yn y llun.
Dymuniad y Clwb yw cefnogi rhai sydd yn rhoi o`u hamser prin i weithio gyda mudiadau fel rhain a phwrpas y noson oedd eu hanrhegu am eu hymdrechion
Yn flynyddol, hefyd, mae`r Clwb yn dewis un person fel Dinesydd Arbennig y Rotari a`r flwyddyn hon y person hwnnw oedd Mrs Jean Huw Jones y Betws.
Dewisiwyd Jean oherwydd ei gwaith diflino fel sylfaenydd lleol "Ymchwil Cancr Cymru" lle mae hi a`i chydweithwyr wedi codi tros £300,000 mewn deugain mlynedd. Mae`r mwyafrif yn gwybod mai hi yw Meistres y Gwisgoedd yn ein Eisteddfod Genedlaethol ac mae hi a`i gwr Huw yn gefnogol iawn i bopeth Cymraeg. Yr oedd y Clwb yn teimlo ei bod yn haeddianol iawn o`r penodiad.

14.3.09

GWNEWCH Y PETHAU BYCHAIN - YSGOL Y GLYN


Dathlodd plant Ysgol y Glyn ddiwrnod arbennig ein nawddsant drwy fod yn rhan o nifer o weithgareddau Cymreig, eu naws. Cawsant gyfle i ganu caneuon, cystadlu yng nghystadleuaeth 'y genhinen fwyaf' a blasu pice' ar y maen. Cafwyd llawer o hwyl a sbri yn ystod y prynhawn wrth iddynt ddawnsio gwerin o dan arweiniad egniol a brwdfrydig Mr Eifion Price.

2.3.09

Dathlu Penblwydd Dwbwl



Roedd Ionawr 22 yn ddiwrnod hapus i ddau deulu o leiaf yn ardal Glo Mân, pan fu cyfnither a chefnder bach yn dathlu eu penblwydd yn flwydd oed, a hynny gyda’i gilydd. Ganwyd hwy yr un diwrnod, Millie Pallot am 10 y bore, a’i chefnder, Macs Elis Davies am 10 o’r gloch y noson honno. Dyna beth oedd trefnu da ar ran y rhieni, Natalie a Dave Pallot, Y Garnant, a Leah a Nic Davies, Penygroes. Llongyfarchiadau cynnes i’r teulu cyfan gan gynnwys hen dadcu a mamgu y ddau fach, Alison ac Alan Davies, Glanaman, Eilyr ac Adrian Davies, Penygroes, a Jane a Ted Pallot, Rugby.

1.3.09

EBENESER, BRYNAMAN



Bedyddiwyd Efa Haf, merch fach Meleri a Rhys Dafydd Williams, yng Nghapel Ebeneser, Brynaman, pan wasanaethwyd gan Y Parchedig Gerwyn Jones, Rhydaman. Mae Meleri’n ferch i Susan ac Eric Thomas, Heol Glynbeudy, ac yn wyres i Mr William Hopcyn. Tra’n llongyfarch y teulu ar yr achlysur hapus, rydym ni’n cydymdeimlo â William Hopcyn ar golli ei briod, Gwenni, ac yn dymuno iechyd gwell
iddo yn 2009.

CAPEL HERMON, BRYNAMAN

Cafwyd Oedfa Fedydd yn ddiweddar yn Hermon, Brynaman, , o dan ofal Y Parchedig Lyn Evans, Manordeilo, pan fedyddiwyd Harri, mab bach Carys a Robbie Knight. Fe gafodd sylw’r llu cyfeillion a ddaeth ynghyd yn Hermon. Merch Moira a Robert Bowen (gynt o Frynaman) a bellach o’r Garnant yw Carys, a mab Mr a Mrs Bob a Lynette Knight, yw Robbie. Mae Mrs Mair Morgan, Heol y Barri, yn hen famgu i Harri, a dymunwn wellhad buan iddi, a phob Bendith ar y plant a’u teulu.

BEDYDD

Cafwyd Oedfa Fedydd arbennig yn Ebeneser, Brynaman, ychydig cyn y Nadolig pan fedyddiwyd Millie Pallot, croten fach Natalie a Dave Pallot (sydd wedi ymgartrefu yn Heol Jolly yn Y Garnant). Mae Millie yn wyres i Alison (gynt o Frynaman) ac Alan Davies, Glanaman, a Jane a Ted Pallot o Rugby. Ei dwy hen famgu yw Mrs Myra Davies, Lôn Bryn Neuadd, Brynaman, a Mrs Beryl Davies o’r Betws. Gweinyddwyd y Bedydd gan Y Parchedig Alan John, Llangennech, ac roedd yn achlysur hapus iawn.
Help / Cymorth