Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32 edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk
27.11.09
Ysgol Dyffryn Aman yn Dathlu Diwrnod T. Llew Jones -
Cylch Hwyl a Gwaith Y Gwynfryn
Gellimanwydd
Nos Fercher 30 Medi cynhaliwyd Swper Diolchgarwch y Gymdeithas. Y gwesteion oedd Y Canon a Mrs John Gravell. Llywydd y noson oedd Miss Rowena Fowler.Braf oedd gweld cymaint wedi dod i fwynhau’r wledd. Roedd y byrddau wedi eu addurno gyda blodau hyfryd a cawsom fwyd heb ei ail wedi ei baratoi gan chwiorydd y Gymdeithas. Wedi’r prif gwrs o ham, tatws a salad cawsom darten afal a hufen ac yna chwpanaid o de.
Roedd pawb wrth eu bodd yn mwynhau’r bwyd a’r gymdeithas felus.
Cawsom araith hynod bleserus a phwrpasol gan y Canon John Gravell am y cynaeafau a fu a’i atgofion fel plentyn adeg y cynhaeaf. Yn wir roedd yn dod ag atgofion melus i bob un ohonom oedd yn bresennol.
Diolchwyd iddo gan Mrs Margaret Reagan
Eleni roedd dwy o ffenestri’r capel wedi eu haddurno gan y plant er mwyn dangos beth hoffent ddiolch i Dduw amdano. A hithau yn ddiwrnod cenedlaethol i ddathlu bywyd T.Llew Jones ar 9 Hydref addas iawn oedd addurno un o’r ffenestri gyda ei waith. Hefyd mae dau o wyrion T. Llew Jones yn aelodau o ysgol Sul y Neuadd, sef Dafydd a Mari Llywelyn.
Roedd yr ail ffenest yn cynnwys eitemau megis bat criced, pel rygbi, Nintendo Wii, llun o cwningen a nifer o bethau eraill.
Cawsom wasanaeth hyfryd yn y bore dan arweiniad plant yr Ysgol Sul. Wedi’r oedfa aethom i gyd i’r neuadd i rannu cwpanaid o de a bisgedi.
Yn y nos cawsom Oedfa Ddiolgarwch yr oedolion. Unwaith eto hyfrydwch oedd gweld cymaint yn y gynulleidfa. Cawsom eitemau gan y côr merched, côr dynion a’r côr cymysg, a diolch i Mrs Gloria Lloyd am ei holl waith yn hyfforddi’r partion a Mr Cyril Wilkins yn ei chynorthwyo. Yn ogystal cawsom ddarllenaidau, adroddiadau ac anerchiad pwrpasol gan ein Gweinidog y Parchg Dyfrig Rees.
Ysgol Feithrin Rhydaman
Enid Davies yn derbyn siec gan Megan Thomas ac Emrys Davies-Caraddock. Bu’r plant bach yn ddyfal yn casglu arian tuag at yr elusen Macluar Disease Society eleni. Gwahoddwyd Mrs Enid Davies o’r Betws i derbyn y siec o £100 ar ran y gymdeithas. Y mae’r clefyd hyn yn golygu bod llawer o bobl yn diodde o golli golwg ac yr oedd Enid Davies yn falch iawn o dderbyn yr arian bydd yn hybu’r gwaith ymchwil sydd yn mynd ymlaen i geisio gwella golwg pobl sydd yn diodde o Macular Degeneration.
Diolch i blant yr ysgol a’u hathrawon am eu caredigrwydd a’u haelioni.
CYNGERDD CYMDEITHAS GORAWL RHYDAMAN A'R CYLCH.
Ym mis Hydref yn hytrach na mis Mai cynhaliwyd Cyngerdd Blynyddol Côr Rhydaman a'r Cylch eleni. Oherwydd afiechyd aelodau'r côr, gwaeledd a marwolaeth o fewn y teuluoedd, aeth trefniadau mis Mai ar chwâl, ond wrth gyd-dynnu, llwyddwyd i fentro ymlaen, a chaed cyngerdd arbennig yn y diwedd. Chwith oedd bod heb gadairyddes y côr, Gillian Howells. Bu'n gadwyn gref i greu undod ymysg yr aelodau, ac i'w tywys i ganu mewn ardaloedd newydd. Byddai'n gweld ymhell, ac yn ysbrydoli ninnau'r aelodau i'w dilvn. Cofiwn ei hawddgarwch.
Fel rhaglen, dewisodd y côr fiwsig poblogaidd; cydganau o waith Handel ym mlwyddyn coffau ei farwolaeth; miwsig Ryan a Hefin Elis; anthem Gymraeg; trefniadau o alawon gwerin; Holy City gan Stephen Adams a Nos Da Mai Jones, amrywiaeth go iawn.
Roedd gan y ddau artist ifanc wreiddiau mewn ardaloedd cyfagos, Andrew Rees o Gaerfyrddin a Gwawr Edwards o Geredigion. Hyfrydwch llwyr oedd profi yr agosrwydd cartrefol a grewyd gan y ddau. Amlwg oedd eu cariad at y Gymraeg, ac eto eu darnau operatig yn llawn awdurdod mewn ieithoedd estron. Mae gan Gwawr lais deniadol, ystwyth a phell-gyrhaeddol, digon i lanw Neuadd Albert yn Llundain a Stadiwm Wembley, heb son am lawer man diddorol arall. Ond dim ond megis dechrau mae ei gyrfa. Byddwn yn gwylio ei dyfodol yn eiddgar.
Mae Andrew yn fwy profiadol, ac eisioes wedi lledu ei adenydd dros rhannau o'r byd. Gyda'i lais pwerus, fe all rhannu llwyfan operatig ag unrhyw gôr. Ond fe brofon ni hefyd dynerwch caneuon serch sydd yn rhan o fyd y tenor. Daeth y ddau â ffresni'r to ieuanc i'r neuadd.
Yn ôl ei arfer, bu'r Parch. E. Lyn Rees yn gyflwynydd gwych, yn cadw'r noson i rhedeg yn esmwyth, a bod yn bont rhwng y llwyfan a'r gynulleidfa. Rhaid hefyd cyfeirio at y cyfeilyddion, tair ohonynt eleni. Menna Griffiths, chwaer Gwawr bu'n cyfeilio iddi hi, ac Olwen Richards a Sally Arthur yn rhannu gweddill y noson. Cyfoeth o gyfeilyddion yn wir.
Pan fod yna alw, mi fydd y côr yn ateb apêl pwyllgorau elusennol. Bydd cyfran o dderbyniadau y gyngerdd yma yn mynd at Ymchwil Cancr. Mae'r afiechyd yma yn cyffwrdd ag aelod o bron pob teulu, ac hefyd a nifer o aelodau'r côr.
Does dim llawer o orffwys o'u blaen, oherwydd byddant yn paratoi Cyngerdd y Nadolig ar unwaith. Dewch i gefnogi, cofiwch.
Grwp Masnach Deg Rhydaman
Aeth teulu o Rhydaman i Lundain ar ddydd Sadwrn 10 Hydref i gasglu gwobr cenedlaethol ar ran Grwp Masnach Deg y dref.Mae grwp Masnach Deg Rhydaman wedi ennill yr ymgyrch Gyfryngol orau trwy Brydain gyfan yn ystod Pythefnos Masnach Deg 2009.
Roedd Phil Broadhurst, aelod o’r grwp yngyd a’i ferched May, Rosa, Cody ac Esta, wedi derbyn gwahoddiad i fynychu cynhadledd y Sefydliad Masnach Deg yn Llundain a chasglu siec o £500 a gafodd ei rhoi gan y “Shared Interest Foundation”. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan y grwp ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol i hyrwyddo Masnach Deg yn yr ardal.
Cafodd Rosa sydd yn ddisgybl blwyddyn 7 yn ysgol Dyffryn Aman ei chyflwyno gyda’r wobr gan George Alagiah sy’n darllen newyddion y BBC. Dywedodd ei thad, Phil Broadhurst, : "Roedd y digwyddiadau yn Rhydaman yn ystod pythefnos Masnach Deg eleni , yn enwedig y banana split yn yr Arcade a’r ras gyfenwid bananas yn lwyddiant ysgubol. Cawsom genfogaeth llawer o bobl ifanc y dref a felly mae’n addas mai person ifanc o Rydaman sy’n casglu’r wobr.”
26.11.09
Ysgol Gymraeg Rhydaman
Disgyblion blwyddyn pump yn datblygu sgiliau entrereneraidd drwy gynnal bore o olchi ceir. Codwyd £196. Dai awn chi GOSEN, LLANDYBIE
llun - Arwel Davies, CaerfyrddinDathlwyd yr achlysur trwy gynnal Cwrdd Diolchgarwch Blynyddol Gosen a Sion o dan arweiniad Y Parchedig Tom Dafis, Caerfyrddin. Cyflwynodd neges amserol trwy son am ein bendithion ni mewn cymhariaeth ag anghenion byd-eang. Gwnaed casgliad tuag at Cymorth Cristriogol yn ystod yr oedfa. Yna, wedi'r gwasanaeth gwahoddwyd pawb i'r festri am gwpanaid o de a chyfeillach.
Da oedd gweld cymaint yn bresennol a does and gobeithio nawr bod hyn yn mynd i barhau er Iles -Gosen a Sion yn y dyfodol. Bydd yr arferiad o addoli ar y cyd yn parhau gyda’r oedfaon yn y naill gapel a'r llall am yn ail Sul.
22.11.09
Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman
Nos Lun, 5 Hydref, roedd Y Parchg Geraint Tudur, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn annerch Cyfarfod Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman yn Neuadd Gellimanwydd. Testun ei gyflwyniad oedd “Bywiogi Pethau”. Diolchwyd iddo ar ran yr Eglwysi Rhyddion gan Mrs Margaret Jones, Y Gwynfryn.
Côr Merched Lleisiau’r Cwm
Mae’r Côr yn brysur iawn ar hyn o bryd yn paratoi Cyngerdd a gynhelir yn yr Hydd Gwyn, Llandeilo ar y 3ydd o Rhagfyr, pan fyddant yn diddanu Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman Hefyd bydd eu Cyngerdd Blynyddol ar y cŷd gyda Chôr Cantata a Chôr y Sgarlets yn cael ei gynnal yn Llanelli ym mis Rhagfyr.
Os oes rhywun â diddordeb mewn ymuno â’r Côr, cynhelir yr ymarferion yn Festri Bethesda, Glanaman bob nôs Fercher am 7 o’r gloch a byddwn yn falch o’ch gweld yno. Neu os oes angen cyngerdd arnoch, cysylltwch â’n Cyfarwyddwraig Gerdd, Catrin Hughes ar 01554 745100 (Ysgol y Strade) neu 07815600972 (Ffôn Symudol). Cyfeiriad Catrin yw: 38 Heol Newydd, Llanelli, SA15 3DR. Bydd croeso twym-galon yn eich haros.
Plygain Hel Fethel
Côr Meibion Dyffryn Aman
Diolchgarwch
Eisteddfod Calfaria Garnant
Enillwyr y raffl oedd: Yn Gyntaf, Mair Howells, Glanaman; Yn Ail, Mrs Boyle, Heol Felin; Yn Drydydd, Rhiannon Cousins, Tycroes ac Yn Bedwerydd, Betty Lee, Garnant.
21.11.09
90 oed
Llongyfarchiadau a phen-blwydd hapus i Mrs Yvonne James Heol Cae Gurwen, ar gyrraedd carreg filltir arbennig ar Hydref 8ed. Cyflwynwyd blật y Gymuned iddi gan Mr Gerald James, Cadeirydd Cyngor y Gymuned, sydd yn fab yng ngyfraith iddi. Mae un o’i hwyrion, Richard,yn y llun hefyd Dymuniadau gorau iddi.
Noddfa a Gerazim
Roedd cymundeb yn yr hwyr yng ngofal y Parchg Lyn Rees, Saron. Ar Nos Lun cawsom y fraint i gael cyrddau Diolchgarwch o dan ofal y parchg Gwyndaf Jones. Diolchwyd i bawb a fuodd yn addurno’r Capel a’r rhai a ddosbarthodd y cynnyrch i hen bobl y pentref.
Y Parchg Vincent Watkins, Pontlliw oedd yn gyfrifol am gyrddau diolchgarwch Capel Gerazim. Diolch i Mr Eifion Squires am ei waith o sicrhau bod y fynwent yn edrych mor dda.
20.11.09
Ffion yn Lesotho
Roedd Ffion yn dysgu plant o 9 - 11 oed ac roedd ganddi 108 o ddisgyblion yn ei dosbarth — na, — nid gwall printio — 108 mewn un dosbarth! Yn ol Ffion, roedd y plant i gyd mor hapus ac yn awyddus iawn i ddysgu. Roedd gwisg ysgol ganddynt yma, ac roeddent yn ddigon ffodus i gael ystafell yn llawn cyfrifiaduron yn yr ysgol, ac roedd ymdrech fawr yn cael ei gwneud i sicrhau fod y plant i gyd yn cael cyfle i'w defnyddio.
Roedd rhaid gwneud taith o 6 awr i fyny i'r mynyddoedd mewn bws mini er mwyn cyrraedd lleoliad yr ail ysgol, — Ysgol Gynradd Loti yn Thabatseka. Yma roedd y sefyllfa yn dra wahanol gyda diffyg adnoddau a hyd yn oed yr athrawon heb eu hyfforddi. Serch hynny, roedd y plant i gyd yn hapus ac yn barod i ddysgu.
Cafodd y criw rywfaint bach o amser i deithio a gweld rhai o bentrefi tlawd y wlad a ffordd o fyw y brodorion. Er mai gaeaf oedd hi yno, teimlai'r Cymry y tywydd yn boeth and giwsgai'r brodorion flancedi traddodiadol i'w cadw'n gynnes.
19.11.09
Capel Newydd
Cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch bendithiol ar fore Sul, Hydref 4edd. Cymerwyd y brif ran gan Dafydd Llŷr a Cellan Wyn gyda Elin, Georgina, Haydn, Sara, Tomos, Joshua, Helena a Hannah y nein cynorthwyo. Yna cafwyd stori difyr gan y Parchg Leslie Jones a fu hefyd yn offrymu’r Cymun. Casglwys reis a pasta i’w trosglwyddo i anffodusion Romania trwy law Mrs Val Newton ynhŷd â’r casgliad rhydd.Mae Dafydd Llŷr newydd ddechrau cwrs yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a dymunwn pob bendith iddo yn y dyfodol.
Gŵyl Gaws Prydain
Sian Elin a Steve yw perchnogion Cwmni Caws Caerfyrddin sy â ffatri gaws yn Horeb, ger Llandysul. Y maent yn cynyrchu rhyw hanner dwsin o wahanol fathau o faws o dan yr enw PONT GÂR, LLANGLOFFAN a BOXBURG BLUE. Y mae ganddynt hefy dfusnes yn Leicester yn cynhyrchu QUEMBY HALL STILTON.
Enillodd y Stilton y wonr am y caws glas gorau yn yr wŷl; ond hefyd cawson nhw’r brif wobr o holl gategoriau yr wŷl gyda’r Quemby Hall Stilton h.y. y supreme Champion Award.
Y mae Sian Elin yn ferch o’r Betws – merch Enid a Hywel Davies o heol Pentwyn. Am gyfnod bu’r teulu yn byw yn y Betws ac roedd Mia a Joseph y plant yn aelodau ffyddlon o’r ysgol Sul yng Nghapel Newydd. Mae’r teulu wedi symud i fyw yn Llanllwch, ger Caerfyrddin a’r plant erbyn hyn yn mynychu Ysgol Bro myrddin. Un o Swydd Efrog ydy Steve ac y mae’n hynod o gefnogol i’r iaith Gymraeg. Y mae’r hysbyseb ar ei gaws yn ddwyieithog ac y mae’r cwmni bob amser yn hybu cynnyrch bwydydd Cymreig.
Pob llwyddiant iddynt yn eu menter.
Cylch Cinio Cymraeg Rhydaman
Mae rhaglen gyffrous wedi ei pharatoi ar gyfer 2010. Fe ddechreuir ym mis Ionawr, yn ôl yr arfer ers dros degawd bellach, gyda’r cwis poblogaidd a diddorol dros ben o dan ofal Edwyn Williams, ein llywydd. Fe ddaw’r flwyddyn i ben gyda’r Ginio Nadolig pryd y byddwn yn 2010 yn dathlu deugain mlynedd sefydlu’r Cylch Cinio gan y Parch. Ronald Walters ar ôl ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Rhydaman yn 1970. Ar y noson arbennig hon fe fydd Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi o dan arweiniad Miss Delyth Mai Nicholas yn bresennol i’n diddanu. Am weddill y flwyddyn fe gawn gwmni Aled Huw, y Prifardd Tudur Dylan, Alun Wyn Bevan, Felix Aubel, Eric Jones, Mrs. Heddyr Gregory, Miss Elizabeth Thomas a John Williams o’r ‘St. Helen’s Balconiers’ ynghyd ag Andrew Hignell, Archifydd Clwb Criced Morgannwg.
Felly os carai unrhyw un ymuno â ni ar yr amser cyffrous hwn yn ein hanes cysylltwch â’r ysgrifennydd Elfryn Thomas, ffôn (01269) 593679 am ragor o fanylion.
18.11.09
Swper Cynhaeaf

‘Diolch, diolch Iesu yw fy nghân’. Gellid dweud hynny yn hawdd wedi treulio noson mewn Swper Diolchgarwch a gynhaliwyd yn festri Moreia, Tycroes ganol Hydref.Mi roedd chwiorydd y capel wedi paratoi gwledd o fwyd ar ein cyfer. Yna cafwyd anerchiad hwyliog a safonol gan Mrs. Hazel Charles-Evans, Llandybïe. Pwysleisiodd ar y modd y dylem ddiolch yn amlach ac fe gysylltodd hynny ar y defnydd a wneir o’r gair yn y Beibl – yn yr Hen Destament, yn arbennig felly yn y Salmau ac hefyd yn y Testament Newydd. Gellir dweud yn rhwydd mae da oedd bod yno.
Llywyddwyd y noson gan y gweinidog, y Parch. Dyfrig Rees.
Gŵyl Ddiolchgarwch
Y pregethwr gwadd ar y nos Sul – Dydd Sant Luc – oedd y Parch. Hugh M. Thomas, Cwmgors gyda’i briod, Mrs. Mary Thomas, yn cynorthwyo wrth yr organ. Cafwyd oedfa arbennig gyda chynulliad luosog.
16.11.09
Menter Bro Dinefwr
Cynhaliwyd dau Jambori yng nghwmni Martyn Geraint yn ardal Menter Bro Dinefwr ar y 29ain a 30ain o Fedi. Ar y diwrnod cyntaf dechreuodd Martyn Geraint ei daith yn y Tywi, yn y bore roedd e’n diddanu’r plant yn Neuadd Ddinesig Llandeilo ac yn y prynhawn aeth i Neuadd Llangadog. Cafwyd diwrnod llawn hwyl a sbri ac roedd yn braf gweld y ddau leoliad yn llawn, daeth dros 350 o blant i weld y diddanwr enwog. Ar yr ail ddiwrnod daeth dros 600 o blant i weld Martyn ar daith yn yr Aman, yn Ysgol y Bedol yn y bore ac yn Ganolfan yr Aman yn y prynhawn. Cafwyd dau ddiwrnod ardderchog ac roedd ymateb hwylus y plant tuag at Martyn Geraint yn profi pa mor lwyddiannus oedd y daith. Hoffem ddiolch i holl ysgolion yr ardal am eu cefnogaeth ar y daith yma a hoffwn hefyd ddiolch i Martyn Geraint am ei sioe ffantastig eleni eto. Edrychwn ymlaen at sioe 2010 nawr
Cyngerdd Flynyddol Côr Meibion Llandybie
Hyfryd oedd gweld Neuadd Goffa Llandybie yn llawn ar nos Wener Medi25ain wrth i Gôr Meibion Llandybie gyflwyno ei Gyngerdd flynyddol gyntaf yn ail ganrif hanes y côr.O dan arweiniad dawnus ein côr feistr newydd, Mr Alun Bowen, difyrwyd y gynulleidfa gan wledd o ganu. Yr oedd y rhaglen amrywiol yn cynnwys caneuon at ddant pawb. Dechreuodd y gyngerdd gyda cyflwyniad bywiog o rhai o ganeuon Gilbert a Sullivan. Plesiwyd y gynulleidfa gyda’r canu swynol a oedd yn cynnwys nifer fawr iawn o ganeuon newydd i’r côr.
Talentau lleol ifanc oedd yr artistiaid a swynwyd y gynulleidfa gan berfformiadau caboledig a graenus y chwaer a brawd Rachel a James Lawlor a gwefreiddiol oedd perfformiad Davinder Singh.
Diolch i Mrs Dorothy Singh am ei gwaith arbennig drwy’r nos fel cyfeilyddes ac wrth gwrs i Mr Alun Bowen am ei waith diflino gyda’r côr. Gwerthfawrogwn eu cyfraniad yn fawr iawn.


