Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

31.12.11


Yn ddiweddar yng ngwesty'r Mountain Gate yng Nhycroes cynhaliwyd noson i anrhydeddu ac i anrhegu Jean Huw Jones am ei gwasanaeth enfawr i'r gymuned leol ac i Gymru gyfan mewn gwahanol feysydd. Cafwyd geiriau o werthfawrogiad i Jean yn rhifyn Hydref o'r Glo Man felly does dim eisiau ail­adrodd yr hyn sydd eisoes wedi ei ddweud ond rhoi tipyn o hanes y noson.

Daeth dros 90 o bobl ynghyd, rhai yn bobl leol ac eraill wedi teithio cryn bellder – yn adlewyrchiad o ddiddordebau eang Jean. Cafwyd noson fendigedig a chyfle i fwynhau pryd o fwyd hyfryd yng nghwmni ffrindiau. Wedi'r gwledda, a geiriau o deyrnged, cyflwynwyd plac o lechen ac arno englyn o waith y Prifardd Robat Powell wedi ei gerfio gan Ieuan Rhys i Jean.

Gwylio mae hon y glo man - yn y cwm
A'r rhai caeth wrth bentan.
Ac a'n serch fe wisgwn Sian
Yma, rhwng breichiau'r Aman.

Gan bod yna dri prifardd yn bresennol nid syndod oedd i ddarn arall o farddoniaeth gael ei gyflwyno hefyd ond nid yn unig i Jean y tro hwn ond iddi hi a'r un a fu'n gefn iddi dros y blynyddoedd, sef ei gwr Huw. Mae'r darn yn waith un a fu'n ffrind iddynt dros gyfnod maith ac a oedd yn adnabod y ddau i'r dim, fel sy'n amlwg iawn yn y geiriau, sef y Prifardd John Gwilym Jones.

Jean a Huw

Mae dihareb yn dweud na welwch chin unman
Anrhydedd i broffwyd gan ei bobol e'i hunan,
ond mae heno yn eithriad, pan roddir i Jean
anrhydedd a chlod gan ei hardal ei hun.

Mewn capel a neuadd, mae'n llanw ei Ile.
mewn pwyllgor, ar lwyfan, o'r Gogledd i'r De;
i fyd y ddawns werin rhoes dalent a dawn,
a pherlau'i darlithiau yn lliwgar a llawn.

Mae'i hegni yn dala, a gran ar ei gwaith,
ac fe sticith hon 'da chi hyd derfyn pob taith,
mae'n hael ei gwasanaeth i'r Betws a'r byd,
ple gwelwyd ei thebyg drwy Gymru i gyd?

Ond fe garwn ddweud gair bach cyn tewi â 'nghan,
mae 'na un peth yn extra yn perthyn i Sian:
tu ôl i bob menyw fe welwch chi ddyn
nad yw am gael spotlight byth arno fe'i hun.

Mae Sian yn arbennig o ffodus o'i gwr
sy'n gweithio'n y dirgel yn hollol ddi-stwr;
beth bynnag y panic a wynebai ei wraig,
ynghanol pob helbul roedd Huw fel y graig.

Wrth fynd tua'r 'Steddfod bob blwyddyn roedd Huw
 yn gweu drwy'r holl draffic fel sant wrth y llyw,
fe  gariai fwy lawer o wisgoedd o hyd
na bois Marks and Spencer's drwy'u bywyd i gyd.

Pan fyddai'r Archdderwydd fel ceiliog yn grac
tawelai Huw'r storom a'i wen yn y bac;
ac os yw Mountbatten yn cerdded 'da'r Cwin,
mae gwell boi na'r Diwc yn gofalu am Jean.

Diolch i Jean am ein cadw mewn trefen,
ond diolch i Huw am fod iddi yn gefen;
os mai hi oedd yn amlwg, erbyn diwedd y gân,
os bu'n Feistres y Gwisgoedd, mae na fishtir ar Sian

26.11.11

SYNDOD YR ARWEINYDDES. - Cor Rhydaman

Achlysur hapus oedd parti penblwydd Mrs. Indeg Thomas, arweinyddes Côr Cymysg Rhydaman. Bu'r côr yn trefnu'r noson yn dawel a chyfrinachol, heb yn wybod i'w harweinydd, a'r rhyfeddod oedd iddynt lwyddo. Credech chi byth? Roedd teulu Indeg hefyd yn rhan o'r cynllun, a dim and wrth ddrws y Neuadd Fwyta yng Nganolfan Aman, er mawr syndod iddi y datgelwyd y gyfrinach. Roedd y gwesteion yn barod wrth y byrddau, aelodau Côr Meibion Llandybie ar y llwyfan, wedi dod ynghyd i dalu teyrnged i'w cyn-arweinydd, a phawb yn barod i ddymuno Penblwydd Hapus iddi .Wedi i'r Côr Meibion, o dan arweiniad Alun Bowen ac i gyfeiliant Jonathan Rio ganu eu cyfraniad nhw i'r noson, cafwyd gwledd flasus o dan ofal Doreen Watts.
Ac yna, disgwyliad annisgwyl arall! Yn ddisymwyth, daeth rhai o staff S4C ac Alwyn Humphreys, yn cario tusw o flodau a phlat Halen y Ddaear., at Indeg a'i syfrdanu ymhellach. Druan ohonni! Wedi hyn, bu parti o Perched o'r côr yn canu penillion wedi eu cyfansoddi'n arbennig i'r achlysur. Derbyniodd dlws aur, anrheg wrth y côr fel gwerthfawrogiad o'i gwaith a'i hamynedd, a'i dawn i lywio a pharatoi cyngherddau safonol. Ar ran Indeg a'r teulu, mynegodd Jonathan, mab Indeg eu gwerthfawrogiad am noson arbennig iawn. Mae yna bwyllgor adloniant yn y côr sy'n trefnu nosweithiau o adloniant fel hon, a mawr yw ein dyled iddynt am ei gwaith manwl.

Ond a fu Côr Rhydaman yn canu o gwbl? Yn anffodus, amhosib fu i'r côr ymarfer dim byd, oherwydd doedd dim cyfle i ymarfer yn yr awyrgylch gyfrinachol. Felly, trefnwyd iddynt ddod ynghyd cyn diwedd y noson, a rhoi arweiniad i'r gynulleidfa i ganu caneuon ac emynau adnabyddus, gyda Olwen Richards wrth. y Ilyw, a Sally Arthur wrth y piano. Cyn troi am adref, gofynnwyd i Indeg arwain 0 Fel Mae'n Dda Gen i Nghartref.
Yn ô1 Indeg, mae hi'n cofio byd heddiw, ac yn debyg o gofio am byth boll gyffro'r penblwydd yma.

Medal Gee


Unwaith yn rhagor fe fu dydd i’w gofio i aelodau Capel y Tabernacl, Glanaman pan anrhydeddwyd Mrs. Mefus Williams, Y Gelli,  gyda medal Mr. a Mrs.Thomas Gee am ei ffyddlondeb i’r Ysgol Sul a’i Chapel yng Nghapel Seion Newydd, Treforus ar ddydd Iau, Medi 29, 2011.  Mae Mefus yn cofio mynd gyda’i mam a’i thad, pan yn ferch fach i Gapel Llanllian, Maesybont ac wedyn ar ôl priodi, i Gapel y Tabernacl, Glanaman.  Bu’n ffyddlon iawn i’w chapel dros y blynyddoedd a braf oedd ei gweld yn cael ei hanrhydeddu gyda’r fedal bwysig yma.

Mae’n glod mawr i’r ardal bod dwy o ffyddloniaid Capel y Tabernacl wedi cael y fath glod am iddynt, am dros saith deg o flynyddoedd, fynychu a gwneud eu gorau glas i’r Cysegr.  Dymunwn bob hwyl iddynt i’r dyfodol, a bendith Duw a fo arnynt am sawl blwyddyn arall.

Anrhydedd y Fedal Gee


Ar ddydd Iau, Medi 29, 2011 yng Nghapel Seion Newydd, Treforus, anrhydeddwyd Mrs. Dilys Richards, Capel y Tabernacl, Glanaman a medal Mr.a Mrs.Thomas Gee am ei ffyddlondeb ers yn naw mlwydd oed yn mynychu’r Ysgol Sul a’r Capel.  Ar hyd y blynyddoedd bu’n Athrawes Ysgol Sul, Llywydd, Ysgrifenyddes a Thrysoryddes Pwyllgor Eglwysi Rhyddion adran Rhydaman, ac mae’n dal i fod yn weithgar tuhwnt ar ran y Capel. Fe fyddai tatcu Dilys sef y diweddar Ifan Llewellyn, yn falch iawn ohoni, gan ei fod yntau wedi bod yn Flaenor yng Nghapel y Tabernacl ar hyd y blynyddoedd.  Yn y llun gwelir Dilys yn cael ei hanrhydeddu gan y Parchedig Eirian Wyn, cyn-weinidog ar Gapel Bethesda, Glanaman, gyda’r fedal Gee.

16.11.11

Ennill Car


Mrs. Julie Evans gyda’i char newydd

A ydych chi’n mynd i siopa yn hwyr y nos? Wel, dyna wnaeth un o drigolion Heol yr Hendre, Tycroes. Gwnaeth Mrs. Julie Evans fynd i siopa yn Tesco newydd Rhydaman wedi diwrnod o weithio fel nyrs yn ardal Abertawe. Wedi gwneud ei siopa a thalu am y nwyddau gofynnwyd iddi os y carai lanw ffurflen er mwyn ceisio ennill car. Gwnaeth hynny heb feddwl ddwy waith am y wobr a’r canlyniadau. Anghofiodd am y peth nes iddi dderbyn galwad, ynghanol diwrnod prysur, ar ei ffôn symudol oddi wrth Radio Caerfyrddin yn nodi’r ffaith eu bod ar rhestr fer o ddeg i ennill car oni iddi fynd i Tesco Rhydaman yn ystod y diwrnodau canlynol. Gwnaeth hynny ac er syndod mawr iddi enillodd ‘Renault Clio’ arian newydd fflam. Methau yngan gair pan y cyhoeddwyd y newyddion – roedd mewn sioc. Fel mae’n digwydd mi roedd yn ben-blwydd arni y penwythnos hwnnw hefyd a dyna beth oedd anrheg annisgwyl!
            Llongyfarchiadau mawr i Julie a phob dymuniad da

12.11.11

Heledd Cynwal yn Lawnsio CD yn Llandeilo - Sefydliad y Merched


Yn ddiweddar bu digwyddiad go arbennig yn Festry Capel Newydd, pan wnaeth Heledd Cynwal lawnsio CD cyntaf erioed Aelodau Sefydliad y Merched Sir Gâr megis Côr Zenaphonics a Pharti Llefaru Merched Bancyfelin. Roedd yn fraint cael ei chwmni ar y noson a chafwyd anerchiad hyfryd ganddi yn ogystal a chydnabyddiaeth caredig dros ben gan Julia Jones, Maer Llandeilo.

Enw'r CD yw Sgwd y Gân/ Cascade of Song ac fe'i recordiwyd yng Nghapel Newydd nôl ym mis Gorffennaf. Mae yn cynnwys 13 o ganeuon a dau ddarn adrodd - amrywiaeth hyfryd sy'n siwr o apelio at gynulleidfa eang. Penderfynwyd recordio'r CD fel rhan o ddathliadau pen blwydd y Ffederasiwn yn 85 oed. Fe gofiwch i ni hefyd gyhoeddu ein hail lyfr o farddoniaeth yn gynharach yn y flwyddyn, Sgwd yr Awen / Cascade of Inspiration. Mae'r llyfr a'r CD yn cyfuno i wneud set hyfryd dros ben ac maent ar gael o Swyddfa'r WI, Siop y Pentan neu ffoniwcgh Beryl Owen ar 01558 823213. Rydym hefyd yn gobeithio trefnu iddo fod ar gael yn ardal Rhydaman. Cadwch eich llygaid mas amdano.

Llun y lawnsiad (Chwith i'r dde) Zena Jenkins (arweinydd y Côr) Amaryllis Stock (Cadeirydd y sir), Heledd Cynwal, Marryl Bradley (Llun y clawr), Julia Jones (Maer Llandeilo), a Rhiannon Griffiths (cyfeilydd)

5.11.11

Eisteddfod

Hyfryd o beth yw medru arwisgo person i'r Orsedd sydd a chysylltiadau a'r pentref. Eleni urddwyd Tamsin Cathan Davies ar fore Llun 1 Awst yn Wrecsam. Mae Tamsin yn ferch i'r Athro a Mrs Russell Davies ac yn wyres i'r diweddar Mr a Mrs Emrys Davies, Cathan Villa, Heol Pentwyn. Mae hi bellach yn gweithio fel Swyddog Cydlynu Darpariaeth Gymraeg Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth -Cole- Ile bu ei thad yn darlithio.

TEULU


Mae'n siwr fod y rhan fwyaf o'r darllenwyr wedi gwylio'r ddwy gyfres o "Teulu" fu ar S4C yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, - cyfres sy' wedi ei ffilmio yn Aberaeron, - and faint ohonoch oedd yn ymwybodol o gysylltiad agos un o'r cymeriadau d Brynaman?
Yn yr ail gyfres, fe'n cyflwynwyd i'r gyfreithwraig, Ffion Llywelyn, a'i merch 7 oed, Lleucu. Mae Megan Wynne, sy'n action rhan Lleucu, yn wyres i Delyth a Ralph Jones, L6n y Parc, Brynaman, ac yn ferch i Rhiannydd Wynne a Dafydd Du. Gan fod braved Rhiannydd, Cerith, a'i deulu yn byw yn Aberaeron, roedd Megan yn gartrefol to hwnt yn ystod cyfnod y ffilmio, ac fe gafodd gwmni ei thadcu o Frynaman fel "chaperone"!
Mae Megan, sydd erbyn hyn yn 8 oed, yn ddisgybl yn Ysgol Treganna. Caerdydd. Mae'n dwlu ar anifeiliaid (roedd wrth ei bodd yn het crancod ar y traeth ar 61 gorffen ffilmio) – ac mae hefyd yn mwynhau canu'r piano.

Bydd y drydedd gyfres o "Teulu" yn ymddangos ar S4C cyn bo hir – edrychwn ymlaen at weld sut fydd cymeriad Lleucu yn datblygu.

Pob lwc, Megan.

31.10.11

Côr Meibion Llandybie

Eleni, ar eu taith ddirgel troi tua dwyrain Cymru gwnaeth Côr Meibion Llandybie. Yr ymweliad cyntaf
oedd Pont Gludo byd enwog Casnewydd. Adeiladwyd hon yn 1906 er mwyn i'r gweithwyr a oedd yn byw ar ochr orllewinol yr Afon Wysg, allu croesi i'r gwaith dur a oedd ar yr ochor ddwyreiniol. Gan bod llongau mawr ar y pryd yn hwylio i fyny'r afon i ganol y dref rhaid oedd cael pont uchel. Yr ateb oedd adeiladu dau dwr bob ochor yr afon gyda gondola yn hongian o'r trawstiau. Mae'n bont hynod o hardd sy'n denu ymwelwyr o bob cornel o'r byd. Dim ond un arall o'r fath sydd ym Mhrydain a dim ond wyth sydd yn yr holl fyd.


Ar o1 pryd o fwyd blasus mewn -westy cyfagos aeth y Cor ymlaen i Abertyleri a pentref bach Six Bells lle mae cofeb drawiadol wedi ei adeiladu i'r glowyr a collodd eu bywydau yn nhrychineb erchyll 1960. collodd 45 o ddynion eu bywydau - un set o efeilliaid a collodd dau deulu dad a mab. Hanner can mlynedd ar o1 y drychineb ar Ddydd Mawrth 28ain Fehefin 2010 arweiniodd yr Archesgob Caergaint wasanaeth i gofio'r drychineb. Ar y gofeb mae enw, oedran a phentref pob un or glowyr. Saif y gofeb 20 metr uwchben safle Glofa Six Bells gyda'r geiriau "Cyflwynir y Gofeb hon i'r holl lowyr a gollodd eu bywydau ar 28 Mehefin 1960 yng Nglofa Chwe Chloch, ac i gymunedau glofaol ym mhob man".
Ar o1 croesi Mynydd Llangynidr i Ddyffryn Wysg daeth y diwrnod i ben gyda phryd o fwyd blasus a chan yng ngwesty Abercraf.

27.10.11

CWMNI DRAMA’R GWTER FAWR

Rhes Gefn: Sarah Hopkin (cofweinydd), Alan Pedrick,Janet Bowen, Colin Evans. Rhes Flaen: Eifion Price, Susan Thomas, Mel Morgans (Cynhyrchydd), Lisa Lewis Jones, Euros Jones
Llongyfarchiadau i’r cwmni ar eu llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol  Wrecsam a’r Fro yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Roeddent yn cymryd rhan mewn Cystadleuaeth Gŵyl Ddrama Awr Ginio yn Theatr  y Maes, ac eleni, yn wahanol i’r arfer, derbyn gwahoddiad wnaethant i gymryd rhan er mwyn dathlu’r ffaith fod yr Eisteddfod yn  dathlu ei phenblwydd  yn 150 !  Ar ôl gwylio pump drama fer, hollol wahanol i’w gilydd, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gan gwmnїau o bob rhan o Gymru, penderfynodd y beirniaid , Carys Tudor Williams a Carys Edwards , mai Cwmni Drama’r Gwter Fawr oedd yn haeddu’r wobr gyntaf. Fe dderbynion nhw Gwpan Gwynfor ( i’w ddal am flwyddyn) a £400. Roeddent yn perfformio comedi gan Edgar Jones  - “Dau Dad”, ac fe lwyddwyd i roi adloniant pur i theatr lawn.

Aelod newydd i’r Orsedd!


Llongyfarchiadau i Nia Wyn Davies, Lôn Bryn Neuadd, Brynaman ar gael ei hurddo  yn aelod o’r Orsedd yn yr Eisteddfod  Genedlaethol yn Wrecsam, yn sgîl y ffaith ei bod wedi graddio mewn Cymraeg.  Mae’n brїod ag Aled, ac mae ganddynt ferch fach Alaw.
Ei henw yng ngorsedd  yw Nia Gwaun Esgair.

26.10.11

Cyflwyno Sieciau




Dilys Richards(Tabernacl) a Mair Wyn (Lleisiau’rCwm) yn derbyn Cyfraniadau’r Cyngor)

Cynhaliwyd noson arbennig yn Siambr y Cyngor, Stryd Fawr, Glanaman ar nos Fercher, 26fed Gorffennaf pan anrhydeddwyd rhai o sefydliadau’r Cwm gyda rhoddion ariannol gan Gyngor Cymunedol Cwmaman i’w helpu i’r dyfodol.  Yr oedd y seremoni yng ngofal Maer Cwmaman, sef y Cynghorwr Colin Evans, gydag aelodau’r Cyngor yn bresennol.  Cafodd y sieciau canlynol eu cyflwyno sef: Cor Merched Lleisiau’r Cwm, £200; Clwb y Garnant, £250; Ffrindiau Hen Fethel, £250; Clwb Godre’r Mynydd Du (Ieuenctid) £250; Capel y Tabernacl, £200; ac hefyd Clwb Rygbi yr Aman, £200.  Diolchodd y gwahanol bersonnau am y rhoddion ac yr ydym yn ddyledus i’r Cyngor Cymuned am eu haelioni i Achosion lleol.

ALEX JONES - Merch byrsur

Llongyfarchiadau mawr i Alex Jones ar ei llwyddiant ysgubol ym myd y teledu. Ers ei phenodiad yn gyd-gyflwynydd ‘The One Show’ bron i flwyddyn yn ôl erbyn hyn, mae wedi cyflwyno perfformiadau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam; ymddangos fel panelydd ar y sioe gemau doniol ‘Epic Win’ ac yn gyd-gyflwynydd i Tim Evans, cyfarwyddwr cerddorol ‘Only Men Aloud’, ar y rhaglen ‘BBC Proms in the Park’ am y tro cyntaf o Gastell Caerffili. Y mae hefyd wedi ei dewis yn gystadleuydd ar un o rhaglenni mwyaf poblogaidd y BBC, ‘Strictly Come Dancing’. Dymunwn bob llwyddiant iddi ac fe fyddai yn hyfryd cael merch o Dycroes yn ennill ar ddiwedd y gyfres

25.10.11

Pencampwr y D.U ac Ewrop


Yn rhifyn diwethaf Glo Mân cawsom hanes Huw Thomas, mab Eirwen a Raymund Thomas, Llanedi yn enill pencampwriaeth “Rookie” Ewrop a’r D.U.  Gofynion y ras oedd seiclo am ddeuddeg awr yn ddi-stop erbyn rhai o feicwyr gorau Ewrop. Cwblhaodd Huw 10 lap o’r cwrs 18 km – rhyw 110 milltir - ar drac coediog serth oedd yn dringo i fyny hyd at 4500m mewn 11 awr a 5 munud. 

Mae Huw yn  aelod o dîm De Cymru ‘Loco BM Racing’.  Mae wedi bod yn beicio ers chwe mlynedd, ond hon oedd ei ras 12 awr unigol gyntaf.  Roedd yn brofiad ac achlysur arbennig iawn, pawb yn llawn hwyl a phibydd traddiodiadol yr Alban yn ei arwain o’r pentref i’r trac a dechrau’r ras.

Mae Huw wedi cael cyfnod hynod lwyddiannus ac ymhlith ei lwyddiannau diweddar oedd cael yr amser cyflyma yn ras 100km Macmillan yn Afan Argoed.

Ras fawr diwetha Huw oedd 400km dros 7 niwrnod yn seiclo o Vancouver i Whistler yng Nghanada. Bu yn cystadlu yn erbyn rhai o feicwyr gorau’r byd o 22 gwlad. Mae’n ffodus iawn ei fod wedi cael ei dderbyn i’r ras hon gan eu bod yn derbyn beicwyr profiadol a llwyddianus yn unig.

Dywed Huw ei fod yn teimlo’n ffodus iawn i allu gweithio fel Rheolwr Prosiectau i’r Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru a hefyd mwynhau bod allan yn yr awyr iach wrth ddilyn ei hobi.

Mae’n adeiladu beiciau ei hun ac erbyn nawr yn cael ei gydnabod fel beiciwr arbennig o dda gan nifer o gwmnïau ym Mhrydain sy’n ei noddi drwy gynnig offer a nwyddau beicio iddo.

Caws Caerfyrddin

Llongyfarchiadau i Gwmni Caws Caerfyrddin elem eto. Bu'r cwmni yma yn llwyddiannus iawn mewn sawl sioe amaethyddol yng Nghymru a Lloegr. Cipiasant wobrau aur, arian ac efydd gyda'u gwahanol gawsiau. Yn y sioe gaws fwya'r byd yn Nantwich cipiasant y brif wobr, sef Tlws Waitrose am y caws gorau yn y Sloe gyda'u caws Boksburg Blue.
Perchnogion y cwmni yw Steven a Sian Elin Peacesy'n byw, gyda'r plant Mia a Joseph, yn Llanllwch, Caerfyrddin. Mae Sian Elin yn ferch i Enid a Hywel Davies o'r Betws.
Os ydych am flasu'r caws Llangloffan neu Pont Gar Brie mae ar hyn o bryd ar werth yn Tesco. Rhydamanac yn slop Cwm Cerrig, Cross Hands. Dymunwn pob llwyddiant i'r dyfodol.

22.10.11

John o Groats i Land's End

Penderfynodd Emyr Stephens a thri o ffrindiau o Kernew (Cernyw) , Andrew, Nathan a Phil, groesi Prydain drwy feicio o John O'Groats yn yrAlban i Lands End yng Nghernyw a cherdded i ben y tri cops uchaf ym Mhrydain sef Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa.
Cychwyn o John O'Groats ar y 6ed o Fehefin a chyrraedd Lands End ar Fehefin 19eg. Roedd yn golygu beicio o gwmpas 100 milltir y dydd, a cherdded y mynyddoedd ar eu diwrnodau bant!!
Daliodd y pedwar ar y cyfle i godi arian at elusen oedd yn agos at eu calonnau. Dewis Emyr (sydd yn fab i Alun ac Eurwen Stephens Maes y Coed) oedd Uned Gofal Arbennig y Babanod yn Ysbyty Prifysgol Cymru (Ysbyty'r Waun) yng Nghaerdydd. Cafodd Joseph Rhys, mab Anne ac Emyr ofal arbennig yno am fis cyn cael dod adre, ac mae Anne ac Emyr yn ddiolchgar am bob gofal a chymorth a roddwyd iddyn nhw.
Os hoffech ddarllen mwy am y daith, ewch i'r wefan http://www.41ads3peaks2weeksljogle. info/
Hoffai Emyr ddiolch i'w deulu, ffrindiau, aelodau o Gymdeithas Gorawl Rhydaman a'r Cylch a Drws Agored am eu cyfraniadau i'r elusen.
Diolch yn fawr.

21.10.11

Cymdeithas Gellimanwydd

Dydd Sadwrn17 Medi oedd dyddiad trip blynyddol Cymdeithas Gellimanwydd eleni. Cheltenham oedd y gyrchfan y tro hwn. Rod dy bws yn dechrau o Rhydaman am 9 ac erbyn 11.00 roeddem yng nghanol y dre yn barod o ddiwrnod o “sightseeing” a siopa.
Roedd farchnad grefftau yno a manteisiodd rhai ar y cyfle i weld y stondinau cyn crwydro’r Promenad enwog. Wrth gwrs, roedd yn rhaid cael cwpanaid o de a cinio yn y dref cyn dychwelyd am adre.
Yn ol yr arfer rhaid oedd stopio ar y ffordd gartre. Aethom i’r Ship inn yn Alveston, ger yr hen bont Hafren a mwynhau pryd blasus o fwyd a sgwrs melus cyn dychwelyd adre wedi cael diwrnod i’r brenin. Diolch i Mrs Mandy Rees a Mairwen Lloyd am y trefniadau

17.10.11

Her y tri Pegwn - three peaks



Ar yr 25ed o Fehefin aeth Rhodri Culley o Flaenau, Aneurin Miles o Landeilo, a 3 o’i gyfeillion Hefin Williams, Dafydd Williams a Geraint Williams o’r Gogledd  i ymrafael  a’r tri pegwn ucha yn yr Alban, Lloegr a Chymru. Y nod oedd cerdded i lan i’r 3 pegwn o fewn 24 awr. Yn ogystal a’r cerddwyr, roedd ganddynt yrrwr, Neil McIntosh o’r Alban, a’i rhieni yn byw mewn tyddyn fach nepell o Ben Nevis.  Dechreuwyd y daith i’r Alban o Aberystwyth am naw y gloch ar ddydd Gwener y 24ydd o Fehefin, aros y nos yn Fort William, a dechrau’r daith i frig Ben Nevis am 5 y gloch y prynhawn ar y dydd Sadwrn. Dyma’r anser gorau i ddechrau i sicrhau bod y rhan fwyaf o’r cerdded yn cael ei wneud mewn golau dydd. Ar ol disgyn, teithiwyd drwy’r nos er mwyn dechrau’r daith i Scafell am bedwar y gloch y bore. Wedyn teithio nol i Gymru i gyflawni’r gamp twy ddringo’r Wyddfa.  Codwyd dros £400 ar gyfer Elusen Doug Davies ar gyfer Cancr y Prostad  gan Rhodri. Ni wnaeth ddioddef unrhyw anaf ar y daith, ond roedd yn cerdded fel John Wayne am rhai diwrnodau ar ol cyrraedd adre!.



  • Llun 1 - Aethpwyd a teclun GPS ar y daith a mae’r llwybrau a ddilynwyd yn ymddangos ar luniau’r 3 pegwn.
  • Llun 2 – golygfa Ben Nevis o dyddyn y McIntoshiaid.

15.10.11

Llwyddiant yn Wrecsam!

Llongyfarchiadau i Glesni Euros, Stryd y Parc, a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol 19 – 25 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol  yn Wrecsam ym mis Awst. Mae Glesni wedi cael cryn lwyddiant yn ein Prifwyl  dros y blynyddoedd a gan mai dim ond 19 oed yw hi, mae’n siwr y daw  llwyddiant  pellach iddi dros y blynyddoedd nesaf. Pob lwc iddi hefyd  wrth baratoi  at ddechrau ei hail flwyddyn yn astudio Almaeneg yng Ngholeg Keble, Rhydychen.

Merched y Wawr Brynaman

Dechreuodd y tymor newydd mewn steil , Nos Wener , Medi 9fed, gyda gwledd o ddanteithion wedi eu paratoi gan aelodau’r pwyllgor. Fel arfer, mae llawer o bethau i’w trafod ar noson gynta’r tymor,   a  braf oedd gallu  croesawu rhai aelodau newydd i’r cyfarfod hefyd cyn estyn croeso cynnes  i’r wraig wâdd, sef Mrs. Einir Jones o Rydaman.Croesawyd hi  i’n plith gan y Llywydd, Buddug Williams, ac fel arfer, fe gafwyd amser diddig yn ei chwmni – bu’n sôn wrthym am rai o’r profiadau sydd wedi dod i’w rhan fel gwraig i weinidog. Wel, am  ddechrau da i’r tymor. Llond bol o chwerthin iach, cyn llenwi’n boliau  wrth y byrddau. Mae rhaglen amrywiol wedi ei pharatoi ar gyfer y tymor, ac fe fyddai’n braf gallu croesawu mwy o aelodau newydd. Bydd y cyfarfod nesaf Nos Wener, Hydref 14eg, yn Neuadd yr Henoed am 7 o’r gloch. Y gwestai y noson honno fydd Nia Evans o  gwmni “Bodlon”, Llanarthne. Beth am ymuno â ni?

10.10.11

Lleisiau’r Cwm a Cantata yn cefnogi Bobath Cymru

Gwelir Endaf Price, cynrychiolydd Bobath Cymru, yn derbyn siec wrth Catrin Hughes, trefnydd y Cabare ac arweinydd Cantata a Lleisiau'r Cwm

 Ar Nos Wener Gorffennaf 15fed, trefnwyd noson Cabare gan Gôr Merched Lleisiau'r Cwm o Ddyffryn Aman, a Chôr Merched Cantata o Lanelli. Prif fwriad y noson oedd dathlu 15 mlynedd o fodolaeth Lleisiau'r Cwm a dathlu llwyddiant Cantata yng Nghystadleuaeth Côr Cymru eleni wrth gipio teitl Côr Merched Cymru am yr ail waith, a chael eu hethol yn gôr mwyaf poblogaidd y gwylwyr. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol, a gwerthwyd pob tocyn ymhell cyn yr achlysur. Arweinydd y noson oedd Heledd Cynwal, sydd wedi cydweithio'n agos gyda'r ddau gôr yng ngystadleuaeth Côr Cymru S4C dros y blynyddoedd.  Perfformiwyd caneuon o'r sioeau gan y ddau gôr - caneuon adnabyddus fel Big Spender, All that Jazz, Hirddydd Haf a Allai'm peidio dy garu di, a chafwyd eitemau gan ddawnswyr o Ysgol y Strade a fu'n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
        Y cyfeilydd gwâdd oedd Richard Vaughan, a 'r sielydd oedd Nerys Clarke a diolch i'r ddau am eu cyfraniad hwythau. Cynhaliwyd ocsiwn hefyd ar y noson, ac ymhlith yr eitemau yn yr ocsiwn oedd taith 2 awr mewn balwn awyr poeth dros Ddyffryn Tywi, pel rygbi yn rhoddedig gan Rhys Priestland wedi ei lofnodi gan garfan y Scarlets 2012, hamper harddwch, a diwrnod yn Machynys. Yr ocsiwnier oedd Glynog Davies Brynaman. Codwyd £2,000 o bunnoedd rhwng y raffl a'r ocsiwn, ac mae'r elw yn mynd i Bobath Cymru (Uned Therapy Cymru sy'n cynnig arbenigedd mewn ffisiotherapi i blant sy'n dioddef o Cerebral Palsy).
        Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth gan Endaf Price ar ran Bobath Cymru. Fel Llywydd Anrhydeddus Côr Merched Lleisiau'r Cwm, fe ddiolchodd Heddyr Gregory i bawb am eu haelioni a'u caredigrwydd, gan ddymuno llwyddiant pellach i'r ddau gôr yn y dyfodol. Ar ddiwedd y noson, ymunodd Cantata a Lleisiau'r Cwm i ganu Anthem o Chess,ac roedd y gynulleidfa ar eu traed.  Yn yr ail hanner anffurfiol, fe berfformiodd Fat Barry's Soul Band.  Hoffai Catrin, Cantata a Lleisiau'r Cwm ddiolch i bawb a fu’n cyfrannu mewn unrhyw ffordd tuag at lwyddiant y noson.

7.10.11

Clwb Henoed Tycroes

Ar ddydd Mawrth ym mis Gorffennaf aeth llond bws o Glwb yr Henoed ar eu hail drip tymor yr haf. Â’r haul yn tywynnu dechreuwyd ar y daith i dref hynafol Aberteifi. Amcan pennaf y daith oedd ymweld ag arddangosfa yn Oriel Pen-y-dre, sef ‘cardigan’ enfawr wedi ei gweu gan drigolion y dref i ddathlu penblwydd 900 mlynedd Aberteifi.

Ac ni’n siomwyd chwaith. Wedi cyrraedd Aberteifi a chael paned a chacen cawsom sgwrs ddiddorol gan brif gynllunydd a dylunydd y prosiect, Lisa Hellier. Eglurodd Lisa sut y daith y gardigan i fod, sef ymateb i’r alwad i ddathlu’r penblwydd mewn modd arbennig. Ei syniad a’i chynllun hi enillodd y dydd.
Yno yn yr Oriel yn hongian o’r trawstiau, yn ei holl ogonaint, oedd y gardigan enfawr yn mesur rhyw wyth troedfedd o uchder a thua deuddeg troedfedd o led ac yn cynnwys dwy lewys enfawr. Yn ffodus gellid cerdded o amgylch y gardigan gan rhyfeddu ar ei chefn a’i ffrynt.

Wedi i pawb eistedd yn gyfforddus dechreuodd Lisa adrodd hanes y gardigan o’r dechrau cyntaf hyd y pwyth olaf. Prosiect cymdeithasol oedd â phawb yn ymgynnull ar nos Sul i weu. Roedd yma elfen gref o rannu sgiliau ac fe welwyd y dref mewn golwg newydd. Daeth nifer o wragedd ynghyd i ddysgu gweu heb batrwm i gyfleu tirwedd a threftadaeth y dref hynafol hon. Mae’r cardigan yn cynnwys nifer helaeth o wahanol batrymau o wau, gyda’r pwyth ‘cêbl’ yn bwysig drwy gydol y gwaith er mwyn nodi gwaith rhaffau ar y llongau a hefyd clymau Celtaidd yr Hen Oesoedd.
Dengys y gardigan yr hen Gastell, Cwrwglau i bysgota am eog a llong yr ‘Albion’ a hwyliodd o Aberteifi yn 1819 i Ganada. Gwelir hefyd Eglwys y Santes Fair ynghyd â llawer o adeiladau hanesyddol y dref.
Dros y 900 mlynedd mae’r dref wedi magu cymeriadau nodedig a dewisodd y gweuwyr eu nodi yn y gwaith. Yn eu mysg, Roger De Montgomery a fu farw yn 1094, cyn sefydliad y dref; Tywysoges Nest a fu’n byw yn y castell wedi ei phriodas â Stephen y Castellydd. Ymwelodd Owain Glyndwr â’r dre ac ymosododd ar y castell yn 1405; teithiodd Henry Tudor drwy Aberteifi ar ei daith i Bosworth yn 1485. Ac yna i’r presennol y ddau Brifardd, Ceri Wyn Jones a’r diweddar Dic Jones, cyn-Archdderwydd Cymru ac un o feirdd pwysicaf y genedl
Un ansoddair sy’n addas i ddisgrifio’r gampwaith yw ‘unigryw’. Mae’n anodd cyfleu mawredd a chywreinrwydd y gwaith. Rhaid ei weld i amgyffred yr holl waith y bu wrth gynllunio a dylunio’r prosiect. Y gobaith yw cael cartref parhaus i’r gardigan. Bydd yn cael ei harddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Barri a’r Fro y flwyddyn nesaf.
Defnyddiaf gwpled y Prifardd Dic Jones i grynhoi’r ymweliad:
‘A wêl y gamp geilw i go
 Swyn y gymdeithas honno.’

Mary Rees

4.10.11

Sgwd y Gân

Fel rhan o ddathliadau pen blwydd Ffederasiwn Sefydliad y merched Sir Gâr bydd Heledd Cynwal yn lawnsio CD cyntaf y Ffederasiwn Sir 'Sgwd y Gân / Cascade of Song' ar nos Wener Hydref 7fed yn Festri Capel Newydd Llandeilo. Bydd  Côr Zenaphonics a Parti Llefaru Merched Bancyfelin yn cymryd rhan.
Ffurfiwyd y Côr sydd yn cynnwys aelodau o ‘r WI ar draws y sir,  dwy flynedd yn ôl, pan gynhaliodd y Ffederasiwn Gyngerdd Nadolig Dilyn y Seren.  Mae enw’r Côr yn deillio o enw’r arweinydd Zena Jenkins.  Roedd Parti Llefaru Merched Bancyfelin yn enillwyr haeddianol yn Eisteddfod Cymru Sefydliad y Merched diwethaf.

30.9.11

Meistres y Gwisgoedd - Gorsedd Y Beirdd

"Mae cyfraniad Sian Aman i Orsedd y Beirdd fel Meistres y Gwisgoedd yn gwbl unigryw. Bu yn y swydd ers saith mlynedd ar hugain ac yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth gyfraniad arbennig iawn. Bu'n gyfrifol am ofalu am holl wisgoedd Yr Orsedd, gan sicrhau fod gwisg ar gyfer pob aelod o'r Orsedd yn y gwahanol seremoniau. Yn wir, iddi hi a'i gwr Huw y mae'r diolch am eu rhodd hael wrth gyflwyno gwisg newydd i'r Archdderwydd yn ystod y blynyddoedd diweddaraf. Mae Jean yn meddu ar rinweddau hollol arbennig - mae'n hi'n drefnus o ran natur, yn bwyllog ac amyneddgar o ran personoliaeth, yn llawn cariad at yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig ac yn urddasol ei chymeriad. Bu'r rhinweddau hyn yn amlwg a chyson yn ei gwaith ers dros chwarter canrif, a mawr ein diolch iddi, wrth iddi ymddeol o'r swydd. Yn fwy na dim, fel y gwelsom yn ystod yr Eisteddfod eleni yn Wrecsam, mae aelodau'r Orsedd yn meddwl y byd ohonni ac yn gwerthfawr ei chymwynasau di-ri dros gyfnod maith.
Yn ystod y Cyfarfod Blynyddol, cyflwynwyd anrheg arbennig i Jean, sef darn o wydr cain sy'n cynnwys marc cyfrin Yr Orsedd ynghyd ag englyn gan y Prifardd John Gwilym Jones. Cyflwynwyd hefyd iddi, rodd ariannol teilwng a llun ohonni gyda'r Archdderwydd, y Cyn-Archdderwyddon, Swyddogion Yr Orsedd a phrif swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd ganddi hi a'i gwr Huw, lu o atgofion melys am wahanol Eisteddfodau - ac fe fydd ganddon ni, aelodau'r Orsedd lu o atgofion melys amdani hi. Does ond rhaid i rywun fod yn ei chwmni am gyfnod byr iawn, i werthfawrogi ei phersonoliaeth hyfryd ac i ddod o dan ei swyn cyfareddol! Diolch i Jean am ei gwaith anhygoel ac i Huw am fod yn gymaint i gefn iddi gydol y blynyddoedd."Penri Tanad
Cofiadur Yr Orsedd

16.8.11

Mabolgampau Dan Do Ysgolion Sul Sir Gaerfyrddin


Cwblhawyd blwyddyn o weithgareddau ar gyfer yr Ysgolion Sul yn sir Gaerfyrddin gyda mabolgampau dan do. Mae poblogrwydd y digwyddiad hwn wedi tyfu yn aruthrol ac eleni cynhaliwyd tair noson o gystadlaethau gyda thyrfa niferus iawn yn bresennol ar bob achlysur. Cynhaliwyd cystadlaethau rhanbarthol ar gyfer y dwyrain a’r gorllewin gyda rowndiau terfynol y sir yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin.
Trefnwyd cystadlaethau ar gyfer pob ystod oedran, o’r meithrin hyd at 18 oed, gyda chyfanswm o 59 o gystadlaethau. Roedd amrywiaeth eang yn y math o gystadlaethau er mwyn rhoi cyfle i gymaint â phosib i fedru cymryd rhan. Yn ogystal â gwahanol fathau o rasys, cafwyd hefyd gwahanol fathau o gystadlaethau maes megis, taflu pêl am nôl, taflu pwysau, neidio cyflym (“speed bounce”), naid hir, naid driphlyg a thynnu rhaff. Gwobrwywyd y tri cyntaf yn y rowndiau terfynol gyda medalau “aur”, “arian” neu “efydd.”
“Cyffro”, “llawenydd”, “hwyl”, “sgrechian”, “gwefr” yw’r geiriau sy’n llifo i’r meddwl wrth gofio am yr achlysur.  Roedd yr holl ddigwyddiad yn hysbyseb o’r math orau i’r Ysgol Sul ac i’r clwb Cristnogol.
Bydd M.I.C. eto yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau cyffrous y tymor nesaf ond yn y cyfamser os hoffech weld rhagor o luniau o’r mabolgampau ewch i www.micsirgar.org
(Mae M.I.C. yn gweithio’n  gyd enwadol ar draws sir Gaerfyrddin gyda’r nod o hybu tystiolaeth yr efengyl ymhlith plant a phobl ifanc ac mae croeso i unrhyw eglwys o fewn y sir i fod yn rhan o’r Fenter. Am fanylion pellach cysyllter â Nigel Davies ar (01994)230049 neu mic@uwclub).

3.8.11

Merched y Wawr - Cangen y Gwter Fawr.

Cynhaliwyd Cinio Blynyddol y Gangen ym Mwyty’r Mynydd Du ar nos Wener, 10 Mehefin. Cafodd pawb  bryd bwyd blasus iawn gyda digon ohonno.
    Wedi i bawb lenwi’u boliau daeth yr amser i glywed gair gan y gwr gwadd. O ddweud mai Sulwyn Thomas oedd y gwr gwadd bydd pawb yn sylweddoli mai nid ‘gair’ a gafwyd ond geiriau a’r rheinny’n rai difyr iawn fel y byddem yn ei ddisgwyl gan un sydd wedi hen arfer diddori a diddanu ei wrandawyr gyda’i ddawn eiriol.
    Da hefyd oedd gallu croesawu Glenys a ddaeth i ofalu bod ei gwr yn saff ynghanol yr holl fenywod.
   ‘Roedd Richard wedi dod nôl i ofalu am y coginio am y noson a dymunwn yn dda iddo ef a Maria pan symudan nhw i Hwngary o fewn ychydig wythnosau nawr.
    Bydd egwyl nawr dros fisoedd yr haf ond bydd y cyfarfodydd yn ail-ddechrau ym mis Medi – yr ail nos Wener o’r mis, am 7 o’r gloch yn Neuadd yr Henoed – pan fydd croeso mawr i aelodau hen a newydd

29.7.11

PRIODAS CWMAMAN

Llongyfarchiadau mawr i Ffion Elin Powell a Ross Coughlan ar eu priodas ddiwedd mis Mai yng Nghapel Bethesda, Glanaman. Mae Ffion yn ferch i Richard a Derith Powell, Heol Grenig, Glanaman a Ross yw mab ieuengaf Mr a Mrs Coughlan o waelod Heol Tir-y-Coed, Glanaman.  Mynychodd y ddau Ysgol Gyfun Dyffryn Aman.  Yr oedd y gwasanaeth o dan ofal y Parchedig Eirian Wyn (cyn Weinidog Bethesda) a’r organydd oedd Christopher Davies.  Rhoddwyd y briodasferch i’w phriodi gan ei thad, Richard Powell ac yr oedd dau was priodas gan Ross sef Emyr Lewis ac Emyr Rees.  Y morwynion priodas oedd Mared Owen, Ffion Haf Mackey ac hefyd y merched bach sef Cadi Lois Owen a Lola Belle Coughlan Hall.  Y gwas bach oedd Dion Celt Owen. Tywyswyr y dydd oedd Toby Coughlan, Steffan Powell, Alun Owen, Gruffydd Sion Rees, Chris Rees, Rhodri Williams, Matt Challenger a Chris Glanville.
Yn ystod y gwasanaeth cafwyd darlleniad pwrpasol iawn gan famgu Ffion sef Mrs Sadie Rees a hefyd cafwyd ddarlleniad hyfryd iawn gan frawd Ross sef, Toby Coughlan.  Tra’r oedd y pâr priod yn arwyddo’r Cofrestr cafwyd perfformiadau hyfryd gan Llew Davies (llais) a Gethin Roberts (gitarydd).  Cerddorion y dydd oedd ffrindiau y pâr ifanc yn cynnwys Gruffydd Sion Rees, Richard Vaughan, Bethan Frieze ac Abigail Blackman,.
Cafwyd y wledd briodas mewn gwesty yn y Dryslwyn.  Dymunwn bob bendith i’r pâr priod a iechyd da i’r dyfodol.  Mae’r ddau wedi ymgartrefu yn Ninas Caerdydd.

24.7.11

Caersalem Tycroes - Blaenoriaid Newydd

Mrs. Gillian, Griffiths, Alun Wyn Griffiths a Mrs. Rhian Wyn Jones

Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghapel Caersalem, Tycroes yn ddiweddar fe etholwyd Gillian Griffiths, Heol Tycroes (dosbarthwr ffyddlon ‘Glo Mân’) a’i mab, Alun Wyn Griffiths, ynghyd â Rhian Wyn Jones, Heol yr Hafod, yn Flaenoriaid. Dymunwn bob bendith arnynt wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.

19.7.11

Pwerdy Iaith


Daeth llu o drigolion Cymoedd Aman a Thawe ynghyd yng Nghanolfan y Mynydd Du Brynaman nos Lun 13 Mehefin er mwyn lansio a sefydlu pedwar Pwerdy Iaith yn yr ardal fel rhan o Gynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe.

Mae’r Cynllun newydd yma yn cael ei hyrwyddo a’i weithredu gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg a swyddogion Menter Bro Dinefwr, Menter Castell-nedd Port Talbot a Menter Brycheiniog a Maesyfed. Nod y Cynllun yw codi’r ymwybyddiaeth a’r defnydd o’r iaith Gymraeg yng nghymunedau  Aman Tawe ac i egnïo a bywiocau gweithgareddau ieithyddol a diwylliannol ar draws yr ardal.

Gan groesawu pobl i’r Lansiad dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg:

“Ardal y glo carreg, cartref chwaraewyr rygbi fel Gareth Edwards a Shane Williams a diddanwyr fel Ryan Davies a Huw Chiswell...ardal Aman Tawe yw un o ardaloedd mwyaf cyfoethog y Gymraeg. Ond erbyn hyn mae’r Gymraeg mewn perygl o golli tir yn sylweddol. Mae lansio’r Pwerdai Iaith lleol hyn yn gyfle i fynd ati a thrafod y camau ymarferol nesaf o ran sut gellid diogelu’r Gymraeg i genedlaethau’r dyfodol yn yr ardal arbennig hon”.

Cafwyd cyflwyniadau hefyd gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Sali Islwyn, (Cyfarwyddwr Datblygu Cymunedol); Dilwyn Jones, (Rheolwr Rhanbarth y De Orllewin); a Llew Davies, (Cydlynydd Prosiectau Cynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe).

Bydd y Pwerdai Iaith yn mynd ati dros yr wythnosau nesaf i weithio ar brosiect a elwir yn “Balchder Bro”. Bydd yn gyfle i bobl leol greu DVD yn hyrwyddo eu hardaloedd gyda’r nod o hybu brwdfrydedd a balchder yn y gymdogaeth ac yn yr iaith Gymraeg. Roedd yna ddigonedd o frwdfrydedd i weld yn ystod Lansiad y Pwerdai Iaith gyda phobl leol yn byrlymu gyda syniadau cyffrous ynglŷn â gweithgarwch i sicrhau dyfodol lewyrchus i’r Gymraeg yn ardal yr Aman Tawe.  

Bydd croeso cynnes i bawb sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg o fewn yr ardal gyfrannu i’r Cynllun newydd cyffrous yma. Am fanylion pellach, cysylltwch â Rhys Davies, Swyddog Datblygu Cynllun Hybu’r Gymraeg Aman Tawe, ar 01269 825790 / rhys.davies@byig-wlb.org.uk

15.7.11

BEICWYR O FRI

Huw

Emyr 

Guto, Tim a Rob

Mae yna nifer o ardal Glo Man wedi gorffen teithiau beiciau nodedig yn ddiweddar.  Mae Emyr Stephens, yn wreiddiol o Rhydaman  wedi beicio o John O’Groats i Lands End. Aeth Guto Evans, Tim Jones a Rob Collard cyd weithwyr yng nghwmni TRJ Betws o Ty Ddewi i Ddiben Ness yn Lowestoft. Ym Mhencampwriaeth Beiciau Mynydd Ewrop enillodd Huw Thomas sy’n enedigol o Lanedi bencampwriaeth “Rookie” Ewrop a’r D.U.
Help / Cymorth